Ar yr 20fed o Fehefin 2015, gwnaeth Meirion Davies, ein Cadeirydd Cenedlaethol a Chyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy gymryd rhan yn Sportive y Quebrantahuesos (y “malwr esgyrn”!) ym mynyddoedd y Pyranees.
Ystyrir y ras yn her enfawr, gyda chyfanswm o dros 3500 medr o ddringo “uchder 3 Wyddfa” yng ngeiriau Meirion ei hun. Llwyddodd Meirion i orffen y ras mewn 7 awr a 26 munud.
Dywed Meirion:
“Fe wnes i’r ras i godi arian tuag at Gymdeithas Motor Neurone er cof am fy mam yng nghyfraith, Gwyneth Mair Williams. Dynes addfwyn ac arbennig a fu farw o’r cyflwr enbyd hwn ym mis Awst 2013.”
“Nid oes unrhyw wellhad i gyflwr Motor Neurone a bydd unrhyw gyfraniad gennych yn cyfrannu tuag at waith ymchwil pwysig i’r cyflwr erchyll hwn.”
Dymunai Meirion ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth.
Cofiwch, bod dal modd ichi gyfrannu tuag at yr achos trwy ymweld â’r wefan Justgiving.