Ymateb Mentrau Iaith Cymru

Yn dilyn cyhoeddi ystadegau Cyfrifiad 2021 ar yr iaith Gymraeg y bore yma (6 Rhagfyr 2022) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae Mentrau Iaith Cymru wrthi ar hyn o bryd yn pwyso a mesur eu harwyddocâd.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad cychwynnol fod cyfanswm niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ychydig i 538,000 o gymharu â 562,000 yn 2011, dywedodd Dewi Snelson, Cadeirydd rhwydwaith y Mentrau Iaith, ei bod yn bwysig peidio â gor-ymateb cyn i’r darlun llawn ddod i’r amlwg.

“Er bod unrhyw ostyngiad yn y cyfanswm yn siom, mae angen edrych ymhellach i weld lle mae’r lleihad wedi digwydd,” meddai. “Mae’n bwysig cofio fod cyfanswm y niferoedd wedi amrywio rhywfaint o gyfrifiad i gyfrifiad dros y degawdau diwethaf, ac nid dyma’r unig faen prawf o ffyniant yr iaith.

“Yr hyn nad ydi ffigurau’r Cyfrifiad ddim yn dweud llawer wrthym ydi am y defnydd o’r Gymraeg.  Mae cynnal y Gymraeg a meithrin ei thwf yn dibynnu ar gael mwy o bobl i’w defnyddio yn ogystal ag ar y nifer sy’n honni eu bod yn gallu ei siarad.

“O’n safbwynt ni fel Mentrau Iaith, ein prif genhadaeth ni ym mhob rhan o Gymru ydi cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae’r Mentrau’n gwneud cyfraniad pwysig, ond mae arnom angen mwy o gefnogaeth er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna pam y byddwn yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth am fwy o adnoddau a chyllid ar gyfer ein gwaith.

“Yr hyn sy’n pryderu ni ar hyd y blynyddoedd ydi’r diffyg defnydd cymdeithasol o’r iaith y tu allan i’r gyfundrefn addysg. Y lleiaf cryf yw’r Gymraeg fel iaith gymunedol neu rhwydwaith y gwaethaf fydd y golled. Dyna pam mae angen buddsoddi yn y Mentrau er mwyn cynyddu y cyfleoedd yma ar draws y wlad.  Nid ydym wedi gweld cynnydd yn ein cyllid ers canlyniad y cyfrifiad diwethaf.  Felly mae’n gallu creiddiol i gynnal fwy o ddigwyddiadau wedi lleihau dipyn.

“Yn y cyfamser, mae cyfansymiau a’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg o ardal i ardal yn rhoi gwybodaeth holl bwysig inni ar gyfer cynllunio ein gwaith a dyna pam yr ydym yn eu hastudio’n fanwl ar hyn o bryd.”

Meddai Arwel Roberts, Cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych: “Byddwn yn dehongli a deall y canlyniadau hyn – a’u harwyddocâd i ni yma’n Sir Ddinbych – dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Edrychwn ymlaen ac at barhau i gydweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod mwy o gyfleoedd i drigolion Sir Ddinbych ddysgu, defnyddio a mwynhau ein hiaith. Mae’r Iaith Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.”

Bydd dadansoddiad llawn o’r ffigurau ar gyfer holl siroedd Cymru i’w gweld ar wefan Mentrau Iaith Cymru yn fuan.