Wedi cynnal dros 50 o ddigwyddiadau i bobl ifanc sir Ddinbych a chael cyswllt gyda dros 2000 o oedolion, mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn edrych yn ôl ar flwyddyn lwyddiannus arall yn eu calendr gwaith.

Yn eu cyfarfod blynyddol diweddar, nododd yr Is Gadeirydd, Gwenan Prysor fod gwaith y Fenter, sy’n elusen gofrestredig, wedi cyrraedd bron i 1400 o blant yn ystod 2024 a 2025 a bod dros 100 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer oedolion dros y flwyddyn.

“Mae’n rhaid talu clod i’r tîm bychan o staff yma ym Menter Iaith Sir Ddinbych, sy’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’r Gymraeg a chynnig cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau. Maen nhw’n cyflawni cymaint gydag ychydig ac mae’r effaith gadarnhaol maen nhw’n eu cael ar grwpiau a sefydliadau o fewn ein cymunedau yn greiddiol bwysig yn sir Ddinbych.

“Dros y flwyddyn, mae’r tîm cyfwerth a 3.5 aelod staff wedi ehangu, diolch i brosiect sy’n cyflogi’n rhan amser Swyddog i hyrwyddo’r Gymraeg yn ardal Hiraethog. Daw’r gefnogaeth ariannol i’r rôl gan Felinau Gwynt Clocaenog a Brenig ar y cyd â Menter Iaith Sir Ddinbych a Chonwy.”

Gyda llywodraethiant cadarn, adroddodd y trysorydd bod y sefyllfa ariannol yn iach a bod y flwyddyn sydd i ddod yn edrych yn un llawn bwrlwm, unwaith eto eleni.

Yn ôl Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych, Ruth Williams: “Mae na gynlluniau wedi eu cadarnhau am gyllid ariannol prosiect newydd sy’n ehangu’r ddarpariaeth sydd gennym yn hyrwyddo’r Gymraeg yn ardal y glannau, trefi’r Rhyl, Prestatyn a Rhuddlan.

“Ar ben hynny, rydym wedi ymgartrefu, erbyn hyn, yn Y Farchnad Fenyn, yn Ninbych sy’n lleoliad gwerth chweil mewn awyrgylch fodern gydag adnoddau’r unfed ganrif ar hugain.  Mae’r staff wedi setlo ac mae’r lleoliad yng nghanol y dref i bartneriaid alw mewn yn hwylus.

“Rydym yn edrych ymlaen at dymor prysur arall o fewn cymunedau Sir Ddinbych, yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn cefnogi sefydliadau, yn trefnu digwyddiadau ac yn gwneud ein gorau i wella’r cyfleoedd ledled y sir i ddefnyddio’r Gymraeg.”

Mae copi o’r Adroddiad llawn i’w weld yma Amdanom ni | Menter Iaith Sir Ddinbych