Ein Gwaith

Nod Menter Iaith Sir Ddinbych…

 Prif nodau hirdymor y Fenter yw:

    • Normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Ddinbych

    • Sicrhau fod cyfleoedd ac anogaeth ar gael i fewnfudwyr a thrigolion di-Gymraeg ddysgu’r iaith

    • Sicrhau fod cyfleoedd i drigolion cynhenid ddatblygu eu gwybodaeth a defnydd o’r iaith

    • Dylanwadu ar yr ystod eang o weithgarwch cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, addysgiadol sy’n digwydd o fewn y sir er mwyn datblygu i fod yn drwyadl ddwyieithog neu Gymraeg  

 

Blas ar waith y fenter…

Hyrwyddo gwerth y Gymraeg i rieni

    • Cynnal gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd cymdeithasol a’r gefnogaeth sydd ar gael i rieni fagu eu plant yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Gweithgareddau Cymraeg i blant a phobl ifanc

    • Trefnu gweithgareddau i blant a phobl ifanc – gweithdai celf, clybiau chwaraeon, clybiau gwyliau, gweithdai Lego a Minecraft a gweithdai ukuleles – i roi cyfle i’r mynychwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa anffurfiol a hwyliog.

Gweithgareddau cymunedol

    • Cynnal gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg yn y gymuned

    • Rhoi cyngor a chefnogaeth i grwpiau cymunedol / gwirfoddol am ddefnydd o’r Gymraeg, ymwybyddiaeth iaith, neu gefnogaeth i drefnu a hyrwyddo gweithgareddau

Cydweithio gyda phartneriaid er budd y Gymraeg yn Sir Ddinbych

    • Cynnal cyfarfodydd Fforwm Iaith Sirol (Partner Iaith Sir Ddinbych) i annog cydweithio ac osgoi dyblygu wrth ddatblygu, cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir

 

Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych 2024-2025

Dyma gyflwyno Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych 2024-2025
Cliciwch ar y teitl i weld cop llawn (mae’n cymryd ychydig o eiliadau i agor)
Polisi Diogelu Menter Iaith Sir Ddinbych 2026

Dyma gyflwyno Polisi Diogelu Menter Iaith Sir Ddinbych
Proffil Iaith Gymraeg Sir Ddinbych

Dyma gyflwyno Proffil Iaith Gymraeg – diweddariad Gaeaf 2025-2026