Dros wyliau’r Pasg cafodd plant a theuluoedd gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy gwehyddu helyg dan ofal Eirian Muse.

Dyma weithdy hynod boblogaidd oedd yn rhoi cyfle i blant a theuluoedd ddysgu sgil newydd wrth ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chartrefol yn yr Hen Lys, Rhuthun.

Roedd creadigrwydd naturiol plant a theuluoedd Rhuthun ar ei orau a chyfle i’r plant wehyddu amryw o siapiau gwahanol gydag ambell un yn mentro ar greu ceirw!

Diolch yn fawr i Eirian am gynnal gweithdy hynod wych a gobeithio cawn eich croesawu nol i Sir Ddinbych yn fuan.