Mae Magi Ann sy’n un o hoff gymeriadau plant bach Cymru wedi cael pythefnos hynod o brysur yn ddiweddar ar ôl bod ar daith yn ymweld â phlant bach sir Ddinbych.
Bu’n crwydro’r sir ar Daith Wanwyn yn canu, dawnsio ac yn darllen storïau yng nghwmni criwiau newydd o blant bach. Dyma oedd tro cyntaf i nifer o blant bach ysgolion cynradd a meithrinfeydd y sir gwrdd â Magi Ann ac roedd eu hymateb yn fendigedig!
Cafodd dros 200 o blant gyfle i chwerthin am mwynhau yn ei chwmni a chyfle i ddod i adnabod ffrindiau Magi Ann yn well. Roedd darllen ambell i stori hefyd at ddant nifer.
Diolch yn fawr i’r holl ysgolion a’r meithrinfeydd a bellach mae Magi Ann yn cael seibiant haeddiannol.
Cofiwch fod ap gwefan a ffôn Magi Ann ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Dyma ffordd wych o adeiladu hyder eich plentyn wrth ddysgu a ffurfio geiriau a cheir opsiwn o ddarllen y straeon eu hunain neu eu clywed yn cael eu darllen.
Cliciwch ar y ddolen er mwyn ymuno â byd Magi Ann





