Bydd drama lwyfan newydd Ledi’r Wyrcws yn teithio i 13 o theatrau dros Gymru y gwanwyn hwn gan gynnwys Theatr Twm o’r Nant, yn Ninbych. 

Daw Morfudd Hughes, Owen Arwyn a Judith Humphreys ynghyd i berfformio’r ddrama gan yr awdur Jerry Hunter a gafodd ei ysbrydoli gan hanesyn a glywodd am Y Foneddiges Amy Parry Williams yn recordio caneuon gwerin mewn wyrcws yn Sir Ddinbych.

Gwyr Jerry bod y Foneddiges — gwraig yr ysgolhaig a’r bardd, T. H. Parry-Williams – wedi gwneud gwaith arloesol yn recordio caneuon gwerin a oedd ar fin cael eu darfod. Ond synodd pan glywodd bod wyrcws yn sefyll o hyd ers yr 50au.

Dywedodd Jerry bod “aelod o gymdeithas Cymraeg y bum yn annerch mewn capel yn Sir Ddinbych at hen adeilad lleol — gan nodi taw dyna oedd hen wyrcws ble recordiodd Ledi Amy Parry-Williams rai o’i chaneuon gwerin gorau gan wreigan a oedd yn byw yno yn y 50au.

“Cydiodd y stori yn fy nychymyg yn syth a dechreuais gofyn cwestiynau i mi fy hun, megis pwy oedd y wraig honno a pham oedd hi wedi diweddu yn y wyrcws? Pa fath o sgyrsiau gafodd Amy Parry-Williams â hi ‘rhwng y caneuon’, fel petai? A pham bod wyrcws yn dal i sefyll yr 1950au; oes yr NHS newydd? 

“Roedd yn ddifyr felly meddwl am y ddwy wraig yn treulio diwrnod yng nghwmni’i gilydd — y ddwy’n amlwg yn trysori’r un diwylliant ond yn dod o gefndiroedd ac yn byw mewn amgylchiadau mor wahanol. Drama lwyfan oedd y cyfrwng amlwg i archwilio sefyllfa o’r fath.”  

I ganfod fwy am daith Ledi’r Wyrcws ledled Cymru, ac i archebu tocynnau, ewch i: Ledi’r Wyrcws | Galeri Caernarfon Cyf, Caernarfon, Gwynedd neu mae tocynnau sioe Theatr Twm o’r Nant hefyd ar gael yn Siop Clwyd neu gan Gaynor Morgan-Rees ar 01745 812349.

Rhestr perfformiadau: 

04 – 05 Mawrth | Galeri Caernarfon 

07 Mawrth | Twm o’r Nant 

10 Mawrth | Theatr Clwyd 

13 Mawrth | Theatr Derek Williams 

17 – 18 Mawrth | Theatr Arad Goch 

19 Mawrth | Yr Egin 

20 Mawrth | Theatr Felinfach 

24 Mawrth | Theatr Soar 

25 Mawrth | Canolfan Gelf Pontardawe 

26 Mawrth | Yr Olwg 

28 Mawrth | Neuadd Llanofer  

01 Ebrill | Neuadd Dwyfor 

02 Ebrill | Pontio