Wyt ti’n chwarae offeryn, clocio neu yn dawnsio gwerin?
Wyt ti rhwng 16 – 25 mlwydd oed ac yn chwilio am swydd dros yr haf?
Mae ceisiadau i ymuno â ThwmpDaith 20206 bellach ar agor!
Dyma gyfle arbennig i gerddorion a dawnswyr ifanc rhwng 16-25 o unrhyw ran o Gymru yn cynnal twmpathau dawns. Mae TwmpDaith yn swydd haf – ble bydd bobl ifanc yn cael eu talu £1000 i fod yn rhan o ‘supergroup Twmpath’.
Cyfnod y swydd yw rhwng 6 Gorffennaf i’r 8 Awst a bydd hyn yn cynnwys wythnos o hyfforddiant dwys (6-11 Gorffennaf) yn y Canolbarth. Bydd y criw yn treulio’r haf yn chwarae cerddoriaeth cynnal twmpathau a gweithdai, yn magu profiadau chwarae a galw byw. Bydd amrywiaeth o leoliadau lle bydd modd ymweld â hwy, o neuaddau pentref i wyliau cenedlaethol gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgelau a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae posibIlrwydd hefyd y bydd y criw yn rhan o daith i Ŵyl AmericaDanza yng Ngholombia (Awst 21-31ain).

Sut mae bod yn rhan o TwmpDaith 2026?
I fod yn rhan o TwmpDaith 2026, mae’n angenrheidiol ei bod unai yn chwarae offeryn (mewn unrhyw arddull), dawnsio, canu neu glocsio i safon dda. Mae’n fanteisiol os gallwch wneud mwy nag un a bydd dealltwriaeth o gerddoriaeth draddodiadol Cymreig yn gymorth ond ddim yn hanfodol. Rhaid bod yn hyblyg ac yn awyddus i ddysgu a “chymryd rhan”. Disgwylir bod gennych rhywfaint o brofiad perfformio.
Eleni, mae lle i naw o bobl rhwng 16 – 25 oed a byddwch yn derbyn tâl o £1000 a darperir llety. Disgwylir i chi fod ar gael ar gyfer y cyfnod teithio cyfan a’r wythnos hyfforddiant. Bydd dyddiau i ffwrdd bob wythnos i ddychwelyd adre ac ar y daith, bydd staff TwmpDaith ar gael i’ch cefnogi, eich gyrru o le i le ac yn eich mentora.
Y broses ymgeisio
Dyddiad cau – Dydd Sadwrn, 24 Ionawr
Ffurflen gais – Ffurflen Gais TwmpDaith 2026
Bydd angen ichi hefyd anfon fidio byr ohonoch gyda chyflwyniad byr o’ch rhesymau dros ymgeisio i fod yn rhan o TwmpDaith a hefyd yn perfformio darn byr o’ch dewis – boed yn ddarn offerynnol, canu neu ddawnsio (ddim mwy na 5 munud).
Ebostiwch y ffurflen gais a’r fidio i post@wyth.cymru. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â ThwmpDaith 2026, cysylltwch â post@wyth.cymru hefyd.






