Llongyfarchiadau mawr i Hannah Wakeham o Ysgol Twm o’r Nant am gipio taleb Lego gwerth £25 yng nghystadleuaeth Calan Gaeaf Menter Iaith Sir Ddinbych.

Roedd y gystadleuaeth ar gyfer plant oedran cynradd ac roedd rhaid iddynt ddylunio a chreu penglog Gwyn ap Nudd, Brenin Annwn.

Roedd hi’n wych derbyn dros 40 o ymgeisiadau gan blant ledled y sir ac roedd pob ymgais yn wych!

Diolch yn fawr i’r holl ymgeiswyr a gystadlodd eleni.

Hannah Wakeham yn derbyn ei gwobr
Blas o’r penglogau a dderbyniwyd