Cynllun “Hapus i Siarad” ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith wedi cyhoeddi lansiad ail rownd eu cynllun ‘Hapus i Siarad’ ar gyfer 2025–26.
Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i ddysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn naturiol yn eu cymunedau gyda busnesau bach sy’n Hapus i Siarad.
Cafodd y syniad ei ysbrydoli gan gynllun o Gatalwnia lle mae ‘Voluntariat per la Llengua’ yn cynnal cynllun tebyg iawn yn llwyddiannus.
Ar 15 Tachwedd 2025, bydd dysgwyr yn cael taith dywys i ymweld â’r busnesau sy’n rhan o’r cynllun ar ‘Fore Hapus i Siarad’ mewn naw tref ledled Cymru i lansio ail rownd y cynllun eleni.
Cynllun parhaus ydy Hapus i Siarad gafodd ei beilota yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Fflint a Wrecsam, a Cheredigion, a’i lansio’n genedlaethol am y tro cyntaf llynedd.
Dywed Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg fod y Ganolfan “wrth eu boddau’n gweithio gyda Mentrau Iaith Cymru i roi cyfle i ddysgwyr roi eu sgiliau Cymraeg ar waith yn eu cymunedau.
“Mae hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn ganolog i waith y Ganolfan.”
Eleni bydd y Mentrau Iaith yn parhau i weithio gyda’r busnesau ac yn ehangu’r cynllun i drefi ac ardaloedd newydd.
Nod ‘Bore Hapus i Siarad’ ar 15 Tachwedd felly yw rhoi’r cyfle i ragor o ddysgwyr elwa ar y cynllun.
Dywed Daniela Schlick, Rheolwr Busnes a Phrosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru fod busnesau yn “rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau pob dydd ac felly’n fwy na llefydd i brynu pethau.
“Maen nhw’n llefydd i bobl gyfarfod ei gilydd, cael sgwrs a bod yn rhan o’r gymuned – lleoliadau gwych i ymarfer siarad Cymraeg.”
Mae’r busnesau sy’n rhan o’r cynllun yn arddangos poster ‘Hapus i Siarad’ yn eu ffenestri neu wrth y til i ddangos eu bod yn hapus i groesawu dysgwyr am sgwrs yn y Gymraeg.
Dyma’r busnesau sy’n rhan o’r cynllun yma yn Sir Ddinbych.
Mae’r dysgwyr yn derbyn cerdyn teyrngarwch gan eu tiwtoriaid a’r Mentrau Iaith lleol i gasglu stamp neu lofnod gan dri busnes lle maen nhw wedi cael sgwrs yn y Gymraeg.
Bydd y cardiau yn cael eu rhoi mewn cystadleuaeth i ennill penwythnos preswyl yn un o’r canolfannau Cymraeg yng Nghymru.
O’r holl gardiau sy’n cael eu cyflwyno bydd enw’r enillydd yn cael ei dynnu o het mewn digwyddiad ar 3 Awst yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Mae cyfle i’r dysgwyr anfon eu cardiau tan 17 Gorffennaf 2026 trwy e-bost at post@mentrauiaith.cymru neu eu cyflwyno i’w tiwtoriaid.

Sue Vanstone o ardal Dwyfor oedd yr enillydd y llynedd, a threuliodd benwythnos yn dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn yn ddiweddar.
“Diolch i ‘Hapus i Siarad’ am y profiad gwych o fynd i Nant Gwrtheyrn.
“Mae’n lle bendigedig i ymarfer Cymraeg, hefyd y cyfle i drïo celf, ioga a dawnsio gwerin yn Gymraeg,” meddai.
Bydd Bore Hapus i Siarad ar 15 Tachwedd yn digwydd yn y naw lleoliad yma: Porthmadog, Dinbych, Llanbedr Pont Steffan, Trefdraeth, Pontardawe, Porthcawl, y Bont-faen, Pontcanna, a’r Fenni.
Ac mae rhestr lawn o’r busnesau ar draws Cymru ar wefan Mentrau Iaith Cymru. Cliciwch yma.

