Daeth Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, AS, i weld Y Farchnad Fenyn yn ddiweddar, wedi ei hwyluso gan berchnogion yr adeilad, Vale of Clwyd Mind. Braf oedd gallu cynrychioli Menter Iaith Sir Ddinbych, gyda chynrychiolwyr eraill yr ardal ar gyfer yr ymweliad. Roedd cynrychiolwyr Amgueddfa Dinbych hefyd yn bresennol wedi iddyn nhwythau symud atom, fel tenantiaid, i’r Farchnad Fenyn, yn ddiweddar.

Mae’r adeilad yn hwb lle mae cymuned, diwylliant, llesiant a’r Gymraeg yn cael lle priodol o fewn tref Dinbych.