Mae gan y Fenter gyfres newydd o deithiau tywysedig Cymraeg, yn addas i siaradwyr Cymraeg newydd lefel canolradd ac uwch yn ogystal â siaradwyr Cymraeg rhugl.
Bydd y teithiau yn para 1.5 – 2 awr fel arfer, ac yn cael eu harwain gan Medwyn Williams, sy’n dywysydd Bathodyn Las.
Mae’r teithiau yn debygol o fod yn ymlwybro ar hyd rhai mannau cul, gydag ambell step neu lethr. Heb law am y daith i fyny Moel Arthur, bydd y gweddill yng nghanol trefi Rhuthun, Dinbych, Rhuddlan, Prestatyn a Llangollen.
Rydym hefyd yn bwriadu datblygu un neu ddwy o deithiau a fydd yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn neu i riant a phlentyn mewn pram. Holwch am ragor o wybodaeth os oes diddordeb yn y rhain.
Gofynnwn am gyfraniad o £2 os yn bosib, a bydd hyn yn daladwy i Medwyn ar y diwrnod.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw trwy e.bostio menter@misirddinbych.cymru neu ffoniwch 01745 812822.