Wyt ti’n angerddol dros y Gymraeg? Yn hoffi gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion? Oes gen ti’r syniadau a’r brwdfrydedd i ddangos gwerth y Gymraeg i eraill? A beth am annog delwedd bositif o’r iaith, diwylliant a threftadaeth? Os wyt ti wedi ateb y cwestiynau yma’n gadarnhaol, yna mae gennym ni’r swydd berffaith i ti!
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn chwilio am berson neu unigolion brwdfrydig i ddod yn rhan o dîm y Fenter sy’n cydweithio i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn Sir Ddinbych. Swyddog Datblygu Cymunedol yw’r rôl, ac mae’r elusen yn barod iawn i ystyried cyfweld un swyddog neu fwy nag un person i rannu’r swydd llawn amser hon.
Mae’r Fenter wedi ei dyfarnu yn Elusen Ddibynadwy gan y cyngor cenedlaethol dros sefydliadau elusennol, NCVO, ac yn gweithio gyda nifer o bartneriaid ledled Sir Ddinbych i hyrwyddo’r iaith, annog defnydd a chynnig profiadau i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol a chymunedol. Mae’r rôl yn ganolog i wireddu amcanion strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae’r swydd wedi ei lleoli yn swyddfa newydd sbon Menter Iaith Sir Ddinbych yn Y Farchnad Fenyn yn nhref Dinbych ac mae’r cyflog a’r telerau yn gystadleuol £24,200 y flwyddyn gyda chyfraniad pensiwn o hyd at 7%. Mae’r swydd yn 37 awr yr wythnos, sy’n cynnwys oriau hyblyg ac anghymdeithasol o bryd i’w gilydd, ond mae’r Fenter yn fwy na pharod i ystyried rhannu’r swydd. Mae’r cytundeb yn un parhaol yn amodol ar gyfnod prawf o chwe mis.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer y swydd yw 10 o’r gloch dydd Mawrth 26 o Awst. Am sgwrs anffurfiol i ddeall mwy am y rôl neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ruth Williams ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru
Cliciwch isod am fanylion llawn y swydd.
This is a post for a Community Development Officer in Denbighshire, for which the ability to communicate proficiently both orally and in writing, in Welsh and English, is essential.