Adolygiad o sioe Mewn Cymeriad, 10 Stori o Hanes Cymru, gan Ffion Clwyd Edwards.
Chwa o awyr iach oedd cael bod mewn cynulleidfa ar gyfer fy sioe fyw cyntaf ers blynyddoedd (bali Cofid!) yn ddiweddar, a hynny yn un o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych i wylio sioe newydd gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’ gyda’r bywiog Hari Hanes yn serennu.
O’r munud y cychwynnodd y sioe, roedd disgyblion ysgolion cynradd y sir yn nwylo’r actor amryddawn sy’n wyneb cyfarwydd i nifer ers ei gyfnod yn Rownd a Rownd, Siôn Emyr. Mae’r bachgen sy’n wreiddiol o Ysbyty Ifan, bellach wedi ymgartrefu dafliad carreg o’r llyfrgell, yn nhref hanesyddol Dinbych.
Doedd gan yr athrawon oedd wedi dod gyda’r disgyblion ddim disgwyliadau o’r sioe, mwy na finna, ond wir i chi, roedd yr awr o actio, adrodd stori, rhannu tasgau, llafar ganu, llefaru, darllen, defnyddio meim gan Hari Hanes a’r plant, yn falm i’r enaid.
Mae hi wastad yn anodd tynnu plant o’i cregyn, a hynny, yn waeth fyth, wedi dwy flynedd anwadal lle mae swnian am gadw pellter a gwisgo masgiau yn siŵr o fod wedi rhoi clec i hyder plant bach. Ac ar ben hynny, mae cynnal diddordeb plant, pan fo safon iaith y criw yn amrywio, yn dalcen caled, ond roedd Siôn Emyr yn hwylio drwyddi, yn ymateb yn rhwydd i gwestiwn neu ddau yn yr iaith fain, ac yn symud yn osgeiddig yn ôl i’r Gymraeg, yn gwbl ddiffwdan. Roedd ei natur hawddgar gyda phlant ag anghenion dysgu mwy dwys oedd yn torri ar rediad ambell gameo, yn gwbl gwbl glodwiw. Roedd ei brofiad a’i broffesiynoldeb fel actor yn serennu.
Roedd wynebau’r plant, wrth ddod i’r ‘llwyfan’ mewn grwpiau bychan i ddarllen brawddegau gan gewri hanesyddol Cymru, yn bictiwr. Wnâi ddim anghofio arddeliad y criw gyda chleddyf y Dywysoges Gwenllian yn cyhwfan yn yr awyr a’r floedd a gyrhaeddodd o bellafoedd Llyfrgell Dinbych i lawr i waelodion Stryd y Dyffryn, yn y dre, dwi’n siŵr: “Er mwyn Gwenllian!” Roedd hi’n floedd addas iawn ychydig ddyddiau cyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Mae’r sioe wedi ei selio ar lyfr arbennig Ifan Morgan Jones ’10 Stori o Hanes Cymru’ a bydd y plant o ysgolion Sir Ddinbych yn bendant yn gadael y sioe yma efo adnabyddiaeth a gwell dealltwriaeth o’i Cymreictod, arwyr Cymru a thalp o’n hanes cenedlaethol. Trwy’r sioe inter-actif hon, dysgais innau fwy am Derfysgoedd Hil Casnewydd, Y Barri a Chaerdydd 1919 a dod i adnabod hanes Eileen Beasley a safodd dros gyfiawnder ieithyddol trwy fynnu derbyn papur treth yn y Gymraeg gan Gyngor Dosbarth Llanelli ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Ces wybod hefyd pwy oedd Alfred Russell Wallace y Cymro o Lanbadog ym Mynwy a ddatblygodd y cysyniad o esblygiad yr un pryd a Darwin. Anodd credu’r fath orchest!
Mae yna werth, i mi, fel oedolyn, o bosib ei heglu hi am Siop Clwyd yn Ninbych i brynu ‘10 Stori o Hanes Cymru’ yn goffâd i’r ferch fach o Ddyffryn Conwy, na chafodd erioed wersi hanes Cymru yn yr ysgol yn wythdegau’r ganrif ddiwethaf, diolch i bolisïau bondigrybwyll Senedd San Steffan!
Gwyn eu byd y plant bychain sy’n byw yn Sir Ddinbych am weledigaeth Menter Iaith Sir Ddinbych ac adran Llyfrgelloedd y Sir am drefnu a hwyluso’r sioe Mewn Cymeriad gan rannu cyfoeth eu Llyfrgell leol, tra ar yr un pryd, yn agor eu llygaid i’w hanes a’i treftadaeth Cymreig mewn ffurf mor ysbrydoledig. Ac yn eisin ar y gacen, roedd yr athrawon yn ei sgrialu hi i weld pwy oedd cyhoeddwyr ‘10 Stori o Hanes Cymru’, er mwyn mynd ati i archebu copïau, wrth adael y sioe.