A hithau’n wyliau haf daeth cyfle i ni gydweithio gydag Ysgol y Llys, Prestatyn ac Ysgol Cefn Meiriadog yn ystod eu sesiynau Bwyd a Hwyl. Roedd yn gyfle arbennig i ni gyflwyno amryw o weithgareddau dros gyfnod o dair wythnos yn cwmpasu rhai o brosiectau Menter Iaith Sir Ddinbych.
Roedd sesiwn stori a chân Magi Ann a’r gweithdy Lego Bocs Trysor yn canolbwyntio ar rhai o gestyll yr ardal. Rydyn ni’n ffodus o allu rhannu treftadaeth ein sir gyda plant a babanod gan ddod a’u cymunedau lleol yn fyw iddynt.
Cafwyd sesiwn hefyd am y byd amaethyddol gyda chyfle i edrych yn ôl ar brosiect yr amgueddfa atgofion gan ddefnyddio’r adnodd hyfryd sydd gennym, y gêm fwrdd ‘Blwyddyn y Ffarmwr Defaid.’ Cafwyd cyfle hefyd i greu mygydau a bathodynnau, rhywbeth y mae’r plant wastad yn mwynhau ei wneud.

Gan fod bwyta’n iach yn elfen bwysig o’r sesiynau Bwyd a Hwyl, trefnwyd hefyd i’r cymeriadau poblogaidd Seren a Sbarc ymweld ag un o’r sesiynau yn Ysgol y Llys, lle cawsant groeso cynnes iawn a hwyl wrth chwarae ac addysgu’r plant.
Bu i’r gyfres gloi gyda sesiwn yng nghwmni theatr ‘Mewn Cymeriad’ gyda’u perfformiad un dyn yn portreadu Thomas Telford wrth iddo adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Llangollen. Mae’r rhain yn ddwy nodwedd pwysig o ardal Sir Ddinbych. Braf oedd gweld y plant yn ymateb yn dda, yn rhyngweithio a ni a chyda’i gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn mwynhau’r adnoddau a’r gweithgareddau oedd wedi eu trefnu ar eu cyfer.
