Mae’r proffil hwn wedi’i lunio gan Menter Iaith Sir Ddinbych, fel diweddariad i’r Proffil Iaith a gyhoeddwyd yn 2015, yn dilyn gwaith ymchwil ac ymgynghori dwys gan Ymgynghoriaeth Sbectrwm.Gyda 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf bydd cyhoeddi proffil newydd, yn seiliedig ar y cyfrifiad eleni (Mawrth 2021), yn bosib ymhen 18 mis – 2 flynedd.Yn y cyfamser mae’n bwysig nodi mai dogfen byw yw’r proffil hwn, a fydd yn eistedd yma ar wefan Menter Iaith Sir Ddinbych. Bydd diweddariadau cyson iddo wrth i ystadegau newydd ddod i law.
Nod y ddogfen hon yw rhoi darlun cyfredol a chynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Ddinbych. Bydd hefyd yn galluogi i ni gynllunio’n effeithiol ac ystyried mesurau i liniaru effeithiau Covid-19.Bydd y proffil hwn yn allweddol er mwyn gallu cydnabod y newidiadau a dadansoddi eu heffeithiau ar wydnwch y Gymraeg a’i ddefnyddwyr. Bydd y Proffil yn rhoi sylfaen i baratoi a datblygu cynlluniau gwaith a strategaethau’r dyfodol ac yn creu darlun o ba ymyraethau ychwanegol a rhai o’r newydd sydd eu hangen er mwyn ymateb i’r sgil effeithiau a sicrhau ffyniant y Gymraeg.
I ddod o hyd i’r proffil, cliciwch yma.