Cyflwyniad
Ceisia Menter Iaith Sir Ddinbych (MISDd) roi’n cynulleidfa yn gyntaf, gan wella ansawdd ein gofal cwsmer a’r cynnig i’n haelodau.
Rydyn yn croesawu unrhyw farn am wasanaeth MISDd, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, a byddwn yn trin â chwynion yn deg yn dilyn y broses isod.
Cwynion
Mae MISDd wedi ymrwymo i ddelio’n effeithiol gydag unrhyw bryderon neu gwynion gan ein cynulleidfa. Os oes unrhyw bryder neu gwyn yn cael ei godi, byddwn yn ymateb fel yr isod.
Noder bydd cwynion mewnol gan aelodau o staff MISDd yn dilyn y broses a nodir yn y llawlyfr staff.
Er mwyn gwneud cwyn bydd angen anfon llythyr swyddogol unai ar ebost at:
menter@MIsirddinbych.cymru neu ei bostio at:
Prif Swyddog, Menter Iaith Sir Ddinbych, 6 Heigad, Dinbych, Sir Ddinbych.
LL16 3LE
Y Drefn Gwynion
- Unwaith bydd llythyr gwyno gan yr ‘unigolyn’ (y person a wnaeth y gŵyn neu gynrychiolaeth o’r mudiad sydd wedi gwneud y gwyn) yn cael ei dderbyn byddwn yn anfon llythyr (e bost neu bost) at yr unigolyn yn cydnabod ein bod wedi derbyn y gwyn ac yn nodi trefniadaeth. Bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn 3 diwrnod gwaith o dderbyn y cwyn.
- Bydd y Prif Swyddog yn ymchwilio i’r gŵyn.
- Bydd aelod o Bwyllgor Menter Iaith Sir Ddinbych yn gwahodd yr unigolyn i drafod a cheisio datrys y mater. Bydd hyn yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod gwaith o anfon y llythyr gydnabod.
- Bydd llythyr yn cadarnhau’r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod yn cael ei anfon at yr unigolyn o fewn 3 diwrnod gwaith i’r cyfarfod.
- Os nad ydy’r unigolyn am gyfarfod, neu os nad yw’n bosib, bydd ymateb ysgrifenedig manwl yn cael ei anfon at yr unigolyn yn ymateb i’r gwyn gan gynnig datrysiadau o fewn21 diwrnod gwaith o anfon y llythyr gydnabod.
- Os nad yw’r unigolyn yn fodlon gyda’r datrysiadau a gyniwyd dylai’r unigolyn gysylltu unwaith eto er mwyn trefnu cyfarfod gyda rhywun o fewn y cwmni nad sy’n gysylltiedig â’r mater i adolygu’r penderfyniad.
- Bydd llythyr yn nodi penderfyniad terfynol y cwmni yn ymwneud â’r gwyn ac yn nodi rhesymau yn cael ei anfon at yr unigolyn o fewn 14 diwrnod o dderbyn cais yr unigolyn am adolygiad.
Ebrill 2020