Rydym yn lansio ein Pecyn Gweithgareddau newydd sbon llawn gemau hwyliog, creadigol a dwyieithog i ddathlu UEFA EWRO Merched 2025 a chefnogi Tîm Merched Cymru yn y twrnamaint!
Perffaith ar gyfer ysgolion, clybiau a theuluoedd! Dewch a’ch balchder Cymreig i’r cae, os ydych chi’n rhugl neu’n dysgu ychydig o eiriau yn unig. Sut fyddwch chi’n dangos eich cefnogaeth i’r iaith Gymraeg, Cymru ac i Dîm Merched Cymru’r haf hwn?
A chofiwch am y ddau ddigwyddiad sydd wedi eu trefnu yn Sir Ddinbych, un yn Ninbych ar y 3 o Orffennaf a’r llall ym Mhrestatyn ar y 9 o Orffennaf. Manylion ar y posteri ar hafan ein gwefan
Lawr-lwythwch eich copi chi nawr i gael eich cyffroi am hwyl pêl-droed.
C’mon Cymru: Pecyn Gweithgareddau Ewros Menywod 2025.pdf