Newyddion

Wedi dros 15 mlynedd yn gweithio ym mhen uchaf tref farchnad Dinbych, mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi symud i’r hen Farchnad Fenyn yng nghanol y dref ym mis Ebrill 2025..

Yn dilyn buddsoddiad i adeilad hen goleg Dinbych, mae symud i’r Farchnad Fenyn yn gwella adnoddau a gweithle i staff a gwirfoddolwyr yr elusen sy’n hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg ledled Sir Ddinbych.

Mae’r lleoliad newydd hefyd yn cynnig mynediad hygyrch i ymwelwyr a chefnogwyr y Fenter allu galw heibio, i brynu tocynnau, archebu lle mewn gweithgareddau neu am gyngor a chefnogaeth wrth ddefnyddio’r Gymraeg o fewn Sir Ddinbych. 

Trwy gyd-leoli â phartneriaid eraill y trydydd sector o fewn y Farchnad Fenyn, bydd hefyd yn cryfhau cyfleoedd i gydweithio â’r partneriaid hynny yn strategol neu trwy gynnal gweithgareddau. Yn ymuno â chriw y Fenter ar y safle fydd perchnogion yr adeilad, Mind Dyffryn Clwyd ynghyd ag Amgueddfa Dinbych ac Archif Cymunedol Dinbych.

Yn ôl prif swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych, Ruth Williams: “Mae hwn yn gyfnod newydd a chyffrous i dîm Menter Iaith Sir Ddinbych. Rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi ein cynorthwyo i symud yr holl eiddo i’r swyddfa newydd – mae pawb wedi bod yn wych!

“Rydym yn edrych ymlaen at y bennod newydd hon i’r Fenter a’r cydweithio i greu swyddfa fydd yn rhoi ffocws ar y Gymraeg yn Sir Ddinbych mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar. 

Yn y dyfodol agos, bydd caffi hefyd yn cael ei agor ar y safle, fel man ymgynnull o fewn y dref.

Cyfeiriad newydd swyddfa Menter Iaith Sir Ddinbych yw Y Farchnad Fenyn, Llain y Capel, Dinbych, LL16 3TU. Bydd ffôn y swyddfa yn parhau’r un rhif (01745) 812822 a’r e-bost menter@misddinbych.cymru