Ydych chi’n cofio taith ddiweddar Lleuwen Steffan yn casglu a rhannu emynau coll y werin? Yma yng Nghapel Mawr, Dinbych cawson ni wledd!

Mewn datblygiad cyffrous, bydd Lleuwen yn ei hôl yn y dref, nos Wener 16 Mai, yn Theatr Twm o’r Nant gyda’i chynhyrchiad Tafod Arian sef cyflwyniad aml-haenog sy’n cyfuno ffilm ac archif sain gweledol a chlywedol, mewn cywaith gerddorol unigryw.

Yn ôl Ruth Williams, Menter Iaith Sir Ddinbych syn hyrwyddo’r noson drwy gynllun Noson Allan, y Cyngor Celfyddydau: “Cafodd Lleuwen y cyfle i glywed, cofnodi a recordio emynau anadnabyddus gan aelodau o’r cyhoedd yn ystod ei thaith llynedd.

“Yn ffodus i ni, yn Ninbych, mae Lleuwen wedi cytuno i ddod nôl yma i gyfuno’r recordiadau a rhai o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i greu cerddoriaeth newydd. Rydyn ni’n gyffrous iawn i glywed y cyfan!”

Yn ymuno â’r berfformwraig fydd y cerddor amryddawn aml-offerynnog Gethin Elis, yn ogystal â’r gantores ddihafal o Lydaw, Nolwenn Korbell. Bydd ffilm newydd arbrofol gan Aled Victor yn cael ei chwarae yn ystod y perfformiad hefyd. 

Mae Tafod Arian  yn talu teyrnged i leisiau’r gorffennol, gan drwytho eu melodïau a’u geiriau oesol gyda threfniannau cyfoes a dehongliadau o’r galon. Mae’r cynhyrchiad hwn yn rhoi bywyd newydd i recordiadau archif, gan sicrhau bod yr emynau llafar gwlad, a gafodd eu hanwylo gan y genedl, yn hawlio eu lle ar lwyfannau Cymru heddiw.

Mae’r prosiect yn gomisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.

Mae’r tocynnau yn £18 ac ar gael o swyddfa newydd Menter Iaith Sir Ddinbych (Y Farchnad Fenyn, Llain y Capel, Dinbych LL16 3TU) neu Siop Elfair, Rhuthun neu ar lein trwy ticketsource Menter Iaith Sir Ddinbych https://www.ticketsource.co.uk/menter-iaith-sir-ddinbych

Brysiwch i sichrau’ch tocyn ar gyfer nos Wener, 16 Mai yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych.

Drysau’n agor am 7, perfformiad yn dechrau am 7:30yh

Cefnogir y digwyddiad trwy Noson Allan.