Gwrach, meddyg lleyg ynteu athrylith ei hoes? Pwy oedd Gwen ferch Ellis o Landyrnog? Mewn sioe un cymeriad ar lwyfan Neuadd y Dre, nepell o’r safle y crogwyd hi ym 1594, cawn ddysgu mwy am Gwen y Witch a’i thynged greulon.

Dyma sioe gyntaf y daith genedlaethol gan Mewn Cymeriad (1 Mai) sy’n olrhain a phortreadu hanes Gwen ferch Ellis a anwyd yma yn Llandyrnog, Sir Ddinbych.

Yn wahanol iawn i wledydd Ewropeaidd, dim ond pum person a ddienyddwyd yng Nghymru o ganlyniad i honiadau o ddewiniaeth. Yn eironig ddigon, mae’r hanes am fywyd Gwen yn fyw, diolch i gofnodion papurau newydd a’i hachos llys.

Ond pwy oedd Gwen, y wraig amryddawn a fu’n briod deirgwaith yn ei hoes fer? Doedd statws y ferch ddim yn uchel yn y cyfnod yn arbennig o gofio bod hon yn ferch oedd â galluoedd arbennig i wella cleifion ac anifeiliaid o salwch, anhwylderau a chlwyfau.

Yn ôl Siân Melangell Dafydd, yr awdur:  “Gobeithio y gallwn gywiro peth o’r ‘coelion gwrach’ sydd gennym am swynwragedd yng Nghymru. Dechreuodd fy niddordeb mewn swynion wrth sylweddoli fod fy ymarfer personol o greu meddygaeth i’r teulu o blanhigion gwyllt, eliau a bwydydd, yn fy ngosod mewn traddodiad o ferched a wnaeth yr un peth. Gobeithio y gallwn leihau’r bwlch rhwng hanes ac ofergoelion drwy roi llais i Gwen, y nyddwr gwlân, gwneuthurwr lliain, iachawr a swynwraig.”

Ymunwch â Menter Iaith Sir Ddinbych i wylio’r sioe yn Neuadd y Dref, Dinbych nos Iau, 1 Mai @ 7:30yh (drysau ar agor 7pm ar gyfer paneidiau a diodydd oer). Y cyfarwyddwr yw Janet Aethwy a’r actores amryddawn o sir Drefaldwyn, Lynwen Haf Roberts fydd yn dod a Gwen yn fyw ar y llwyfan.

Tocynnau £12 (£8 i rhai 14-16 oed) ar gael trwy wefan www.mewncymeriad.cymru