Bydd Menter Iaith Sir Ddinbych yn ôl yn Llyfrgell Dinbych ddydd Sadwrn yma (16 Medi) i gynnal gweithdai Lego i blant 7 -15 oed.
Gweithdai 1.5 awr lle bydd cydweithio i ail-greu’r Brodordy ac adeilad y Llyfrgell yn Ninbych. Bydd y sesiwn bore yn un dwyieithog, a’r prynhawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch i gofrestru trwy gwion@misirddinbych.cymru neu 01745 812 822.