Mae Menter Iaith Sir Ddinbych, mewn cydweithrediad â phwyllgor Dydd Owain Glyndŵr a Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych a yn cynnal gweithgaredd yng Nghorwen i deuluoedd, i ddathlu Dydd Owain Glyndŵr. Mae’r Fenter wedi cynllunio helfa hanes i ddysgu mwy am hanes Owain Glyndŵr yng Nghorwen, mae modd i chi lawrlwytho’r taflen gweithgaredd yma fan hyn. Diolch yn fawr iawn i’r Lolfa am noddi’r wobr wych o gêm Owain Glyndŵr.
Am fwy o weithgareddau a digwyddiadau Owain Glyndŵr ar draws y Sir… Nos Wener 15 Medi: Darlith a swper gan Dr.Gwyn Lewis yn Neuadd Carrog (gweler isod)
Dydd Sadwrn 16 Medi: Mair Tomos Ifans yng Nghastell Rhuddlan ar gyfer Diwrnod Owain Glyndŵr Neu i neud gwaith celf a chrefft Owain Glyndŵr, mae adnoddau CADW isod: Arfbais Owain Glyndŵr  Tafleni lliwio Owain Glyndŵr