A fuoch chi’n ddigon ffodus i ymweld â safle hanesyddol Dolbelydr yn ystod ei phenwythnos drysau agored 20 a 21 o Fedi? A welsoch chi’r trawstiau pren, y waliau calch, y ffenestri gwydr, y to glog agored a’r ddwy simnai?

Dolbelydr ac ymweliad Ysgol Cefn Meiriadog

Dyma’r nodweddion gafodd eu hefelychu gan blant o Ysgol Cefn Meiriadog, Ysgol Gymraeg Henllan ac Ysgol Bro Aled yn ystod cyfres o weithdai Lego mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Sir Ddinbych ar safle Dolbelydr ger Henllan. Yn ystod dydd Gwener 19 o Fedi a bore dydd Llun 22n o Fedi roedd safle Dolbelydr dan ei sang o greadigrwydd a dychymyg wrth i gartref Henry Salesbury o’r 16eg ganrif droi yn fodelau bach Lego.

Rhai o ddisgyblion Ysgol Henllan gyda’i modelau Lego

Gyda diolch i’r Landmark Trust am fenthyg y safle i’r genhedlaeth nesaf roedd cyfle i’r plant fynd o amgylch y lleoliad a dysgu mwy am ei hanes a sut roedd pobl yn byw yn ystod 1578. Mae’r tŷ bellach yn fwthyn gwyliau, ac er bod ambell ddatblygiad modern i greu’r profiad yn gyfforddus, mae’r nodweddion gwreiddiol i’w gweld o hyd. Cafodd y plant modd i fyw yn cydweithio mewn grwpiau yn adeiladu gan efelychu’r hyn roeddent wedi ei ddysgu yn ystod eu ymweliad. Ar ddiwedd eu sesiwn roedd cyfle iddynt bigo ffrwyth yr un o’r berllan – gwobr haeddiannol iawn am eu gwaith!