Llun: Y bwrlwm ar Sgwar y Goron, Dinbych wrth fwynhau’r dathlu a’r gerddoriaeth Gymraeg
Roedd strydoedd Dinbych yn llawn Cymreictod ddydd Llun cyntaf mis Mawrth, wrth i hyd at 700 o blant ymuno yn nathliadau Dydd Gŵyl Ddewi, diolch i waith Menter Iaith Sir Ddinbych, Cyngor Tref Dinbych a’u partneriaid.
Gwenodd yr haul wrth i’r orymdaith ddechrau ar ei thaith o waelod Stryd y Dyffryn yng nghanol baneri lliwgar a sŵn a chyffro’r dorf. Teithiodd plant, staff, stiwardiaid a gwirfoddolwyr i fyny’r brif stryd wrth i drigolion a busnesau lleol ddod allan i’w cyfarch ac ymuno yn nathliadau ein nawddsant cenedlaethol.
Arwain yr orymdaith
Yn arwain yr orymdaith a sicrhau diogelwch pawb oedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru. Roedd dau gwnstabl ifanc ‘Heddlu Bach’ o Ysgol Pendref yn cefnogi’r swyddogion eleni, Ojiugo, 9 a Leon, 10. Cafodd y ddau ddisgybl sy’n byw yn Ninbych yn y cyfle i gael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar waith yr heddlu yn Ninbych.
Ar Sgwâr y Goron, cafodd y 14 ysgol a fynychodd y digwyddiad groeso cynnes gan y cyflwynydd radio, Owain Llŷr a’i gerddoriaeth Gymraeg.

Llun: Disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Glan Clwyd
Dywedodd Ruth Williams o Fenter Iaith Sir Ddinbych: “Roedd yn wych croesawu disgyblion a staff ysgolion Tremeirchion, Bro Cinmeirch, Cefnmeiriadog, Pendref, y Parc, Pant Pastynog, Henllan, Frongoch, Twm o’r Nant, Plas Brondyffryn, Glan Clwyd a Choleg Myddelton yn ôl atom eleni.
“Yn ymuno am eu profiad cyntaf roedd digyblion Ysgol Trefnant ac Ysgol Santes Ffraid (llun isod). Roedd hi’n braf gallu croesawu’r ddwy ysgol am y tro cyntaf i orymdeithio â ni.

Un o’r criw fu’n brysur yn gwirfoddoli ar y diwrnod oedd y Cynghorydd Sir Delyth Jones o Ddinbych.
Dywedodd Delyth: “Mae’n wych cael bod yn rhan o’r digwyddiad arbennig yma. Rydym yn ffodus bod gennym dîm gweithgar yn y Fenter sy’n rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddangos balchder yn eu Cymreictod.
“Mae rhoi’r platfform i ddisgyblion ddod ynghyd a dathlu Dydd Gŵyl Ddewi o fewn eu cymuned yn rhoi statws i’r achlysur ac yn ein hatgoffa ni gyd o bwysigrwydd rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn Ninbych.”
Cefnogaeth Gymunedol
Dywedodd Ruth Williams: “Rydym yn gwbl ddibynnol ar gefnogaeth y gymuned, ac mae cael unigolion sy’n ein cefnogi fel gwirfoddolwyr a stiwardiaid, yn greiddiol i’n gweithgareddau. Dwi bron yn sicr bod gennym ni’r nifer fwyaf erioed o wirfoddolwyr a swyddogion Heddlu yn cydweithio â ni eleni, felly diolch!
“Rydym yn ddiolchgar i holl ddisgyblion a staff yr ysgolion am drefnu a mynychu. Yn ogystal, mae cefnogaeth Cyngor Tref Dinbych, Grŵp Cynefin, Lidl a Heddlu Gogledd Cymru yn hollbwysig i lwyddiant y digwyddiad, felly diolch iddyn nhwythau.
Ar ddiwedd y digwyddiad cyflwynodd dwy ddisgybl o Ysgol Pendref, Jessica a Chantelle, 7 oed flodau ar ran y dorf i gynrychiolydd Cyngor Tref Dinbych, Cynghorydd Roy Tickle (gweler y llun isod).

Roedd Sgwâr y Goron dan ei sang a daeth gweithgareddau’r bore i ben gyda chanu’r anthem genedlaethol dan arweiniad Owain Llŷr. Roedd baneri Dewi Sant yn chwifio’n uchel yn yr awyr wrth i bawb droi yn ôl am eu hysgolion.
Am luniau o’r digwyddiad a gwybodaeth bellach am wasanaethau Menter Iaith Sir Ddinbych ewch i’r dudalen Facebook, Twitter neu Instagram neu galwch draw i’r wefan. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli o fewn eich cymuned neu gefnogi gwaith y Fenter yn ariannol, cysylltwch â Ruth Williams ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru