Gig Gwilym Bowen Rhys – 7fed Rhagfyr – Neuadd yr Eglwys, Henllan – 8pm – Digwyddiad am ddim
Cynhelir y gig hwn yn Henllan fel rhan o brosiect ‘Cymunedau Dwyieithog’ Menter Iaith, lle bwriedir i gynnal digwyddiadau dwyieithog o fewn ein cymunedau yn Sir Ddinbych. Cerddor o Fethel yn Arfon ydi Gwilym. Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru. Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun. Fe enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth dros y byd. Cyhoeddodd ei albym gyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 â gyrhaeddodd restr fer ‘albym Cymraeg y flwyddyn’ yn yr Eiseddfod Genedlaethol. Yn 2018 cyhoeddodd y cyntaf mewn cyfres o gasgliadau o hen faledi, ac yn 2019 cyhoeddwyd ei drydedd albym: ‘Arenig’.
Nid oes cost mynychu gan fod y digwyddiad am ddim, ond os hoffwch fwy o wybodaeth cysylltwch gyda 01745 812 822 neu nia@misirddinbych.cymru