Wedi misoedd o gystadlu brwd ledled Cymru, daeth pedwar i’r rownd derfynol neithiwr, a phedwar gwahanol iawn o ran steil cerddoriaeth. Yn brwydro am y teitl yn erbyn Siân Miriam roedd Y Saethau o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Downhill, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, Cefneithin a Swnami, Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Enw cân fuddugol Sian Miriam yw Beth yw ystyr rhyfel?
Magi Dodd oedd yn cyflwyno rhaglen ar C2 BBC Radio Cymru gyda Rhodri Llwyd Morgan, cerddor a chanwr Cerrig Melys, y DJ Ian Cottrell, a Meilyr Gwynedd, canwr gyda’r band Sibrydion yn rhoi eu barn. Ond gan y gwrandawyr roedd y bleidlais i ddewis pwy fyddai’n ennill.
“Mae safon y bandiau sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth eleni yn arbennig o uchel, ac fe allai unrhyw un o’r pedwar fod yn enillwyr teilwng,” meddai cyflwynwraig C2 Magi Dodd cyn y rhaglen. “Beth sy’n braf yw fod pob un yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r gystadleuaeth, ac mae rhywbeth at ddant pawb yno. Mae wir yn bleser dilyn datblygiad y bandiau yma dros gyfnod y gystadleuaeth – o’u gweld yn fyw, i’w danfon i stiwdios recordio proffesiynol ac yna gael gweld y band buddugol yn manteisio’n llawn o’r wobr ar lwyfan Maes B neu recordio’u sesiwn i C2.”
Cafodd y bandiau gyfle i recordio eu cân ar gyfer y rownd derfynol mewn stiwdio broffesiynol, ac wedi eu darlledu ar raglen C2, agorodd y llinellau ffôn i wrandawyr gael bwrw’u pleidleisiau.
Wedi i’r llinellau gau a’r pleidleisiau gael eu cyfri, cyhoeddwyd mai Siân Miriam oedd yr enillydd eleni, ac roedd y sgrechfeydd ben arall y ffôn yn arwydd clir bod Siân wrth ei bodd o glywed y newydd.
Ar raglen Dafydd a Caryl bore heddiw (Dydd Iau, Mai 5), yn ei chyfweliad cyntaf ers clywed ei bod wedi ennill y noson gynt, dywedodd Siân Miriam pa mor hapus oedd o dderbyn o wobr, a bod Caryl Parry Jones yn un o’r rhai a’i hysbrydolodd i ddechrau cyfansoddi a pherfformio, yn ddim ond 9 oed.
Disgrifiodd glywed ei bod wedi ennill fel “noson orau ‘mywyd i” gan ychwanegu am berfformio ym Maes B Eisteddfod eleni fel rhan o’r wobr, “ellai’m dweud pa mor gyffrous ydi hynna!”
Mae’r wobr gyfan yn cynnwys:
cytundeb i recordio Sesiwn i C2 BBC Radio Cymru perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol eleni erthygl tudalen lawn yn un o rifynnau’r cylchgrawn ‘Y Selar’ sesiwn lluniau hanner diwrnod efo ffotograffydd proffesiynol gwahoddiad i berfformio yng ngŵyl Huw Stephens, Gŵyl Sŵn 2011 perfformio ar lwyfan Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol eleni cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2011
Am fwy am y gystadleuaeth ac i glywed y rownd derfynol ewch i bbc.co.uk/radiocymru