Bydd yr ŵyl flynyddol canol haf yn Ninbych yn digwydd o ddydd Sadwrn y 14 i’r dydd Sul yr 22 o Fehefin eleni.

Mae hi’n ddigwyddiad pwysig yng nghalendr tref farchnad hanesyddol Dinbych. Dyma rai o uchafbwyntiau’r arlwy Gymraeg yn yr Ŵyl eleni:

Sesiwn Rhandir Cymunedol gydag Iwan Edwards, Pont y Tŵr o 12:00 tan 16:00 prynhawn Sadwrn 14 o Fehefin. Gwahoddir y teulu cyfan i Ffordd Las, tu ôl i archfarchnad Morrisons, i weld beth sy’n digwydd yno. Pryfed, infertebratau a bwyd – bydd y cyfan yno i chi ddysgu amdanynt a chael bwyd sydd wedi eu tyfu ar y rhandir i fynd adref gyda chi. Bydd y sgyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg ac nid oes angen cofrestru o flaen llaw.

Dwy sesiwn Amser Stori a Chân i fabanod a’i rhieni gyda Magi Ann, ddydd Llun, 16 Mehefin yn Llyfrgell Dinbych. Sesiwn cyntaf am 10 yn llawn. Ail sesiwn 11:15am ar gael i archebu. Digwyddiad AM DDIM, nifer cyfyngedig, cysylltwch â’r Llyfrgell i archebu.

Cyngerdd gyda’r delynores amryddawn, Elinor Bennet ddydd Mercher, 18 Mehefin yn Theatr Twm o’r Nant. Llais Hen Delynau yn dechrau am 7:30pm. Mae angerdd Elinor Bennett dros gerddoriaeth a’i chywreinrwydd gyda’r delyn yn ei gosod fel un o gerddorion mwyaf nodedig Cymru. Noson o ddatganiad dwyieithog, yn canolbwyntio ar lais y delyn. Tocynnau o Siop Clwyd, neu gan Gaynor ar 01745 812349 neu ar-lein www.theatr-twm-or-nant.org.uk

Gŵyl Dewin a Doti ddydd Gwener, 20 Mehefin yn Theatr Twm o’r Nant. Dewch i ymuno yn hwyl y sioe sy’n llawn caneuon, dawnsio a hwyl i blant bach a’i rhieni. Tocynnau yn £5 yr un ac AM DDIM i blant o dan 1 oed ar gael trwy www.theatr-twm-or-nant.org.uk neu gan Mudiad Meithrin.

Yr amgueddfa unigryw sydd gennym yn Ninbych, Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau ym Mhwll y Grawys fydd ar agor bob dydd o’r Ŵyl, ac eithrio dydd Sul. 1pm tan 4pm AM DDIM ond derbynnir rhoddion. Dyma le cewch chi hanes darlledu yng Nghymru drwy’r oesoedd, dylanwad darlledu ar ein hunaniaeth genedlaethol a chyfraniad y Cymry i ddatblygiad technoleg ddiwifr. Mae’n werth ymweld!

Am holl arlwy cynhwysfawr Ŵyl Ganol Haf Dinbych ewch i Facebook @denbighmidsummer neu ewch i’r wefan: www.darganfoddinbych.cymru. Bydd taflenni hefyd ar gael o gwmpas y dref neu yn Llyfrgell Dinbych.