Cystadlodd 12 o ysgolion Cymraeg Sir Ddinbych yng Nghwis Dim Clem eleni.

Gyda dros 200 o blant yn cymryd rhan, roedd hwn yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r gystadleuaeth yn Sir Ddinbych.

Bydd enillwyr Sir Ddinbych, sef Ysgol Bro Cinmeirch yn symud ymlaen i’r rownd ranbarthol i gystadlu hefo ysgolion gorau gogledd Cymru.