Cymrodd bron i 40 o fusnesau Dyffryn Clwyd ran yng nghystadleuaeth ffenest siop flynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych i nodi dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi.
Mae dathlu gŵyl ein nawddsant, trwy addurno ffenestri siopau yn nhrefi Rhuthun a Dinbych, yn rhoi’r cyfle i fusnesau ymgysylltu â chwsmeriaid a rhoi’r statws dyledus i’r digwyddiad cenedlaethol pwysig hwn.
“Rydym yn falch, unwaith eto eleni, i weld busnesau yn sylweddoli gwerth masnachol defnyddio’r Gymraeg a’r diwylliant ar eu busnesau,” eglura Iorwen Jones o Fenter Iaith Sir Ddinbych.
“Mae trefnu’r digwyddiad hwn yn dangos ein cefnogaeth, fel Menter, i fusnesau annibynnol lleol sy’n gweithio’n galed ar strydoedd trefi’r sir i annog busnes ac economi leol y stryd fawr.
“Rydym yn ddiolchgar i bob un o’r busnesau a ymgysylltodd â ni trwy’r gystadleuaeth, a hynny trwy ddangos creadigrwydd, cynnyrch a lliw Cymreig bendigedig yn ffenestri eu siopau eleni. Mae’n wych gweld cymaint o fusnesau eisiau hybu eu Cymreictod o fewn Dinbych a Rhuthun.”
Mae Menter Iaith, sy’n elusen, yn ddiolchgar am holl gefnogaeth ei phartneriaid, wrth iddynt weithio i hybu defnydd o’r Gymraeg ym mywydau pob dydd trigolion y sir. Eleni roedd Cynghorau Tref Rhuthun a Dinbych yn bartneriaid yn y gystadleuaeth wrth gefnogi’r gweithgareddau yn eu trefi priodol.
Meiri y ddwy dref fu’n beirniadu ffenestri’r siopa gyda gwobrau’n cael eu rhoi i’r tri busnes buddugol yn Ninbych ac yn Rhuthun. Roedd y beirniaid yn sgorio pwyntiau am greadigrwydd, defnydd o’r iaith Gymraeg, cyfeiriadau at Ddewi Sant a diwylliant Cymru, fel rhan o’i rôl.
Y Canlyniadau:

Llun: Ffenest siop Lovingly Made by Lyn enillodd y wobr gyntaf yn nhref Rhuthun yng nghystadleuaeth ffenest siop Dydd Gwyl Dewi Menter Iaith Sir Ddinbych
Rhuthun
- Lovingly Made by Lyn
- Siop Elfair
- Cyfrifwyr Hill a Roberts
Dinbych
- Lle Llinos a Kerry
- Tony Griffiths Framing & Photography
- Siop flodau Reebees
Ychwanegodd Iorwen “Hoffai’r Fenter Iaith ddiolch i bob busnes a gyfrannodd wobrau tuag at y gystadleuaeth yn eu mysg Reebees a Teacups Tearooms a diolch eto i’r Cynghorau Tref am eu cefnogaeth barhaus.”
Mae lluniau o’r holl ffenestri i’w gweld ar dudalen Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych. Am fwy o wybodaeth am waith Menter Iaith Sir Ddinbych, cysylltwch â Ruth ar 01745 812822 neu e-bostiwch menter@misirddinbych.cymru