Partneriaid

Partneriaid a sefydliadau eraill sy’n gweithio dros y Gymraeg

Yn ogystal â rhwydweithiau’r Mentrau Iaith rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag amryw sefydliad arall i rannu gwybodaeth, syniadau, profiadau ac adnoddau er mwyn gweithredu er budd y Gymraeg yn Sir Ddinbych.

 

 

 

 

 

Llywodraeth Cymru

 

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Maent yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio.

 

www.llyw.cymru

 

 

 

 

 

Urdd Gobaith Cymru – Sir Ddinbych

 

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn heddiw mae gan yr Urdd dros 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed.

 

www.urdd.cymru/dinbych

 

 

 

 

 

Mudiad Meithrin

 

Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol ac mae’n cael ei gydnabod fel prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol.

 

www.meithrin.cymru

 

 

 

 

 

BBC Radio Cymru

 

Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy’n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977.

 

BBC Radio Cymru

 

 

 

 

 

Cyngor Sir Ddinbych

 

sirddinbych.gov.uk

 

 

 

 

 

Cymraeg i Blant

 

Mae Cymraeg i Blant yn cynnig cyngor rhad ac am ddim i rieni ar gyflwyno’r Gymraeg o’r Crud

 

Cymraeg i Blant – Mudiad Meithrin

 

 

 

 

 

Merched y Wawr

 

Mae Merched y Wawr yn fudiad sy’n gwneud pob math o bethau! – Coginio, crefftau, ciniawa, teithio, chwaraeon, darlithiau, helpu elusennau, canu, cwisiau a llawer mwy. Prif nod y mudiad yw ymgyrchu dros hawliau’r iaith Gymraeg a hawliau marched.

 

http://merchedywawr.cymru/

 

 

 

 

 

 

Papurau Bro Sir Ddinbych

Mae 4 papur bro yn ardal Sir Ddinbych, adnodd amhrisiadwy mewn cymunedau Cymraeg, sef y Bigwrn, Gadlas, Glannau ar Bedol

https://www.ylolfa.com/cyfeiriadur/papurau-bro

 

 

 

 

Dysgu Cymraeg

 

Mae Dysgu Cymraeg yn cynnig cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr o bob lefel ym mhob rhan o Gymru.

 

Dysgu Cymraeg – Gogledd Ddwyrain

 

 

 

 

 

Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd

 

CFfI Cymru yw’r mudiad ieuenctid wledig mwyaf yng Nghymru sy’n darparu cyfleoedd i dros 5,000 o aelodau ar draws Gymru, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn sirol a 155 o glybiau, yn cynnwys Clwyd.

 

CFfI Clwyd

 

 

 

 

 

Comisiynydd y Gymraeg

 

Corff annibynnol gyda’r nod o hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau.

 

Gwefan Comisiynydd

 

 

 

 

 

S4C

 

S4C yw’r unig sianel deledu Cymraeg yn byd. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae’n comisiynu cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud y rhan fwyaf o’i raglenni.

 

s4c.cymru

 

 

 

 

 

Dathlu’r Gymraeg

 

Grŵp ymbarél sydd am ddathlu llwyddiant y Gymraeg yw Dathlu’r Gymraeg ac sy’n galw am gyfres o fesurau cryfion newydd er mwyn sicrhau ei pharhad.

 

www.dathlu.org

 

 

 

 

 

Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG)

 

Mae RhAG yn gweithio i wella ac ehangu mynediad at ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.’

 

www.rhag.net

 

 

 

 

 

Tro

 

AP I’TH DYWYS AR DROED YDI TRO. Tyrd i agor drws ein henwau lleoedd yn ardal ogleddol Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a chael dy arwain at gyfoeth ein treftadaeth. Tyrd ar antur ar hyd llwybrau realiti estynedig dy ffôn a darganfod mwy am gyfoeth yr iaith a hanes Cymru o fewn yr ardal arbennig hon o harddwch naturiol eithriadol.

 

http://tro.cymru/

 

 

 

 

 

Nerth Dy Ben

 

Ymgyrch Gymraeg yw Nerth dy Ben i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o bŵer a dylanwad y meddwl. Ymgyrch ysbrydoledig yw hon i addysgu, rhannu, cefnogi a thrafod y cryfder sydd gennym i ymdopi, goroesi a chyflawni, ac i ddechrau’r siwrnai i drawsnewid yr agwedd a’r sgwrs o fewn cymunedau gwledig am gryfder meddyliol, a’i dylanwad ar ein beunyddiol bywydau.

 

https://nerthdyben.cymru/

 

 

 

 

 

Dyfodol

 

Mae Dyfodol i’r Iaith yn agored i bawb sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu. Ei nod yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru a bod y Gymraeg yn parhau’n fater byw ar yr agenda gwleidyddol. Mae Dyfodol yn gweithredu drwy ddulliau cyfansoddiadol yn unig ac yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Cynghorau Sir, y pleidiau gwleidyddol, arweinwyr cyrff cyhoeddus ac eraill i roi’r Gymraeg wrth galon eu polisïau a’u gweithgareddau. Ymunwch â ni ar y daith.

 

https://www.dyfodol.net

 

 

 

 

 

Cymdeithas yr Iaith

 

Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid. Ydych chi erioed wedi profi anhawster wrth geisio cael gwasanaeth Gymraeg? Cael eich trin yn amharchus wrth siarad Cymraeg? Cael trafferth cael mynediad i addysg Gymraeg i chi neu’ch plant?

 

https://cymdeithas.cymru

 

 

 

   

 

 

Dysgu Cymraeg

 

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos, gyda’r mwyafrif yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ar hyn o bryd. Mae’r cyrsiau yn cael eu cynnal gan rwydwaith o ddarparwyr cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dych chi’n gallu dod o hyd i gwrs yma neu beth am ddechrau dysgu trwy ddilyn un o’n cyrsiau blasu ar-lein?

 

https://dysgucymraeg.cymru

 

 

 

 

 

Popeth Cymraeg

 

Mae Popeth Cymraeg yn sefydliad unigryw wedi ei sefydlu gan ddysgwyr Cymraeg lleol a siaradwyr brodorol yn unig gyda’r nod o addysgu Cymraeg i Oedolion yn yr ardal. Nôl ym 1988 defnyddiodd Maer Dinbych, y Cyng. David E. Jones, ei araith faeryddol i lansio ymgyrch i sefydlu Canolfan Iaith yn Nyffryn Clwyd. Cafodd ei weledigaeth groeso eang a brwd ac o fewn tair blynedd roedd o ac aelodau eraill Ymddiriedolaeth Canolfan Iaith Clwyd wedi llwyddo yn eu bwriad. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach mae Popeth Cymraeg, y corff cymunedol a ddatblygodd allan o’r ymgyrch gwreiddiol, yn mynd o nerth i nerth.

 

https://popethcymraeg.cymru/cy