Daeth cyfle i groniclo gwaith y flwyddyn yng nghyfarfod blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych yn ddiweddar, wrth i’r Cadeirydd, Bethan Cartwright, longyfarch staff a gwirfoddolwyr am ymgysylltu â bron i 5,000 o unigolion drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2025 i 2026.
Dywedodd y Cadeirydd: “Rhaid llongyfarch ein tîm o staff a’n gwirfoddolwyr ar eu gwaith dros y deuddeg mis diwethaf. Mae wedi bod yn flwyddyn dda iawn i’r Fenter, gyda chymaint o weithgarwch a chyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau.
“Dechreuodd y flwyddyn gyda cham pwysig wrth i ni symud i’n swyddfa newydd, Y Farchnad Fenyn, yng nghanol tref Dinbych. Mae’n wych gweld bod defnyddwyr y Fenter a’r gymuned ehangach bellach, yn adnabod ein cartref newydd yn Llain y Capel – yr adeilad gopr trawiadol yng nghanol Dinbych.”
Digwyddiad nodedig arall yn ystod y flwyddyn oedd penodi Swyddog Datblygu Cymunedol newydd. Ymunodd Erin Aled, 23, o Lanuwchllyn â’r tîm wedi graddio mewn Cymraeg Proffesiynol BA o Brifysgol Aberystwyth.

“Gan mai edrych yn ôl ar y flwyddyn ydyn ni yn ein cyfarfod blynyddol, mae Erin wedi hen setlo yn ein plith erbyn hyn,” meddai Prif Swyddog y Fenter, Ruth Williams. “Mae hi’n ased gwerthfawr i’r tîm bychan o staff sydd gennym, ac mae pawb wedi ei chroesawu a’i chefnogi wrth iddi ddatblygu yn ei rôl.
Cafwyd cyfle hefyd yn y cyfarfod blynyddol, a gynhaliwyd eleni yn Stafell Ymgynnull, Neuadd y Dref, Rhuthun, i groesawu aelod newydd i Fwrdd Ymddiriedolwyr Y Fenter.
“Roedd hi’n braf iawn croesawu Dr Kathryn Jones o gwmni Iaith fel ymddiriedolwr newydd i’r bwrdd,” eglurodd Bethan Cartwright. “Mae Kathryn yn dod â chyfoeth o brofiad ym maes ymchwil iaith, polisi ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith mewn ieithoedd lleiafrifol yma yng Nghymru a thu hwnt. Croeso mawr iddi atom!”

Dros y flwyddyn bu Menter Iaith Sir Ddinbych yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’r Gymraeg a chynnig cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau.
“Mae gweld effaith gwaith y Fenter ar draws cymunedau Sir Ddinbych yn galonogol iawn. Mae’r gwaith o greu cyfleoedd, cefnogi sefydliadau a chysylltu pobl drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu yn ein cymunedau.”
Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Adroddiad Blynyddol MISDd 25-26 TERFYNOL