Llongyfarchiadau mawr i griw FAST Ysgol Pen Barras am gipio’r drydedd safle yn Rownd Genedlaethol Cwis Dim Clem Mentrau Iaith Cymru 2025/2026.

Da iawn chi hogiau am gynrychioli Sir Ddinbych yn wych a chael trydydd drwy Gymru gyfan – arbennig.

Diolch i Mari Lovgreen am gyflwyno’r cwis dros Teams yn wych a diolch i Fenter Sir Benfro am gydlynu’r cwis.

Wedi’i ddatblygu gan Menter Bro Dinefwr yn 2015, dyma gwis ar gyfer disgyblion hŷn yr ysgol i brofi eu gwybodaeth gyffredinol am Gymru (a thu hwnt!) mewn ffordd hwyliog a rhwydd.

Bu 11 o ysgolion cynradd y sir yn cymryd rhan yn y cwis eleni a thros 250 o ddisgyblion yn cwblhau Rownd 1. Diolch yn fawr i’r holl ddisgyblion am eu brwdfrydedd a braf oedd gweld cymaint ohonynt yn mwynhau a chydweithio o fewn eu timau!