Mae Cwis Dim Clem Mentrau Iaith Cymru wedi dychwelyd unwaith eto i Sir Ddinbych a mis nesaf bydd dwy ysgol yn cynrychioli’r sir yn Rownd Rhanbarthol Gogledd Cymru – Ysgol Pen Barras ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

Bu’r rhaid i’r ddwy ysgol gystadlu mewn dau rownd sirol anodd cyn cymhwyso i’r Rownd Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Bu taith ‘Cwis Dim Clem’ gychwyn cyn y Nadolig, gyda chriw Menter Iaith Sir Ddinbych yn ymweld ag ysgolion cynradd Cymraeg y sir.

Wedi’i ddatblygu gan Menter Bro Dinefwr yn 2015, dyma gwis ar gyfer disgyblion hŷn yr ysgol i brofi eu gwybodaeth gyffredinol am Gymru (a thu hwnt!) mewn ffordd hwyliog a rhwydd.

Bu 11 o ysgolion cynradd y sir yn cymryd rhan yn y cwis eleni a thros 250 o ddisgyblion yn cwblhau Rownd 1. Diolch yn fawr i’r holl ddisgyblion am eu brwdfrydedd a braf oedd gweld cymaint ohonynt yn mwynhau a chydweithio o fewn eu timau!

Cymhwysodd y 5 ysgol â’r sgoriau uchaf ymlaen i Rownd 2 sef Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Bro Cinmeirch, Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, Ysgol Pen Barras ac Ysgol Gymraeg y Gwernant. Llongyfarchiadau mawr i’r 5 ysgol am lwyddo i gyrraedd Rownd 2. Camp â hanner!

Yn y Rownd Rhanbarthol fis nesa, bydd dwy ysgol o bob sir yng Ngogledd Cymru yn cystadlu. Pob lwc i’r ddau dîm a fydd yn cynrychioli’r sir, tim F.A.S.T. a thîm Fantastic Four.

Casgliad o luniau o ambell ysgol ar hyd y rowndiau!