Dydd Mercher 15 Hydref Diwrnod Shwmae Su’mae 2025

Cael hwyl wrth siarad Cymraeg fydd prif thema Diwrnod Shwmae Su’mae 2025 wrth i Mentrau Iaith Cymru baratoi ar gyfer y digwyddiad blynyddol.  Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd uchafbwynt ar ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu, dydd Mercher, 15 Hydref.

Y Thema: Hwyl wrth siarad Cymraeg

Eleni, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i rannu clip fideo o’u hunain yn mwynhau gweithgaredd yn y Gymraeg gan fachu ar fomentwm blwyddyn ‘Hwyl’ Croeso Cymru.

Meddai Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, “Tra bod ymgyrch farchnata Croeso Cymru yn canolbwyntio ar y teimladau o hwyl a llawenydd y gallwch eu profi yng Nghymru, bydd dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae 2025 yn pwysleisio’r ‘hwyl’ sydd i’w gael wrth siarad Cymraeg.

“Ein nod yw dathlu’r ystod eang o weithgareddau sy’n dod â phleser i ni fel siaradwyr Cymraeg a thynnu sylw at y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan glybiau, mudiadau ac ysgolion drwy Gymru gyfan i sicrhau bod modd i ni wneud nhw yn Gymraeg.

Fideos llawn hwyl

Wrth grynhoi syniad yr ymgyrch, meddai Myfanwy Jones, “Wyt ti’n paragleidio, yn nofio gwyllt neu’n padl-fyrddio yn Gymraeg? Wyt ti’n perthyn i gôr, grŵp cerdded neu glwb drama? Beth am fynd ati i greu fideo fer ohonot ti a dy ffrindiau yn cael hwyl a’i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pa fath o weithgareddau mae pobl yn mwynhau yn Gymraeg!”

Mae syniadau eraill i ddathlu’r diwrnod ar gael ar wefan Shwmae Su’mae –  shwmae.cymru – gyda sticeri, ffrâm hunlun a swigod ‘shwmae’ ar gael i’w lawrlwytho. Ar gyfer cymorth neu gyngor ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â diwrnodshwmae@gmail.com neu eich Menter Iaith leol.

Wrth rannu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, cofiwch ddefnyddio’r hashnodau #Hwyl a #shwmaesumae25 a thagio @ShwmaeSumae ar Facebook neu @diwrnodshwmaesumae ar Instagram a TikTok.

Cefndir y Diwrnod

Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf ar 15 Hydref, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg! Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r rhai sy’n swil eu Cymraeg. Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 15 Hydref.

Cydlynir ymgyrch Diwrnod Shwmae Su’mae 2025 gan Mentrau Iaith Cymru, rhwydwaith o 22 o fentrau iaith ledled Cymru sy’n creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd a’u cymunedau lleol.