This is a part-time post for which a good understanding and ability to write and speak Welsh is essential

22 hours a week, with occasional evening/weekend work, covering communities from Prestatyn to Llandudno.

The work involves promotion of the Welsh language and bilingualism by working with community groups, children and young people throughout the areas.

Salary: between £20,541 – £22,911 pro-rata depending on experience.

Office bases in Llanrwst and Denbigh. Access to own transport is essential.

Closing date for applications 21 April 2023

Cyfle i weithio yn cefnogi grwpiau cymunedol ac yn hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd yng
ngogledd siroedd Conwy a Dinbych

Swyddog Prosiect Ardal Arfordirol

22 awr yr wythnos (gyda rhai oriau gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol)

Cytundeb hyd ddiwedd 2025, yn ddibynnol ar asesiad cyfnod prawf llwyddiannus
Diolch i nawdd gan gronfa Gwynt y Mor a Gwastadeddau Rhyl mae Mentrau Iaith
Conwy a Sir Ddinbych yn chwilio am swyddog prosiect i sefydlu a chefnogi grwpiau
cymunedol mewn cymunedau ar draws ardal arfordirol rhwng Prestatyn a
Llandudno.

Bydd y swyddog yn gyfrifol am adnabod a chefnogi grwpiau gwirfoddol gyda’r bwriad i
adnabod anghenion y cymunedau o ran defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn
cynnwys gweithio efo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal o fewn y diriogaeth. Bydd
rhywfaint o ddyletswyddau gweinyddol megis cadw cofnodion, creu a dadansoddi holiaduron
ac adrodd ar gynnydd y prosiect yn chwarterol.

Disgwylir y bydd angen i’r swyddog fod â pheth profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr neu
grwpiau cymunedol, a bod yn hyderus wrth gyfathrebu’n gyhoeddus yn Gymraeg ac yn
Saesneg.

Cyflog: Rhwng £20,541 i £22,911.00 yn ddibynnol ar brofiad.
Lleoliad: Rhannu rhwng swyddfeydd Menter Iaith Conwy, Llanrwst a Menter Iaith Sir
Ddinbych yn Ninbych (gydag o leiaf hanner yr oriau gwaith allan yn y cymunedau ar hyd
lannau’r ddwy sir).

Am fanylion a disgrifiad swydd cysylltwch efo meirion@miconwy.cymru

Cais drwy lythyr a CV Dyddiad Cau: 9am ar 21 Ebrill 2023