Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol yn nigwyddiad Dathlu’r Mentrau Iaith am eu gweithgareddau Minecraft a Lego i blant a phobl ifanc.

Mewn digwyddiad arbennig i ddathlu gwaith y mentrau iaith sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ledled Cymru, daeth cyfle i’r elusen, sy’n gweithio ledled Sir Ddinbych, rannu hanes eu cynllun.

Yn ôl Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych: “Daeth prosiect Bocs Trysor i fodolaeth yn ystod clo mawr y pandemig pan welwyd y cyfle i weithio yn ddigidol trwy’r Gymraeg er mwyn cyrraedd at blant a phobl ifanc yn ddiogel.”

Gyda nawdd o gronfa’r Loteri Treftadaeth, llwyddwyd i ddatblygu peilot gweithgareddau rhithiol gyda phlant er mwyn parhau i gynnig cyfleoedd chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg, a hyn yn benodol gyda Lego a Minecraft

“Mae hyrwyddo treftadaeth lleol yn dod â’i cynefin yn fyw,” eglura Ruth Williams. “Trwy dderbyn y nawdd, dyma gyfle i ni ddatblygu’r peilot a chreu adnodd a oedd yn cyflwyno hanes lleol, treftadaeth ein milltir sgwâr i blant a phobl ifanc.

“Trwy chwarae a chymdeithasu o fewn y gweithdai Lego a Minecraft yn ddigidol ac yn nes ymlaen mewn sesiynau wyneb yn wyneb, roedden ni’n gallu cynnig darpariaeth cymdeithasol oedd yn apelio at y plant trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae’r cynllun Bocs Trysor yn barod wedi sicrhau bod dros 600 o blant a phobl ifanc wedi dod a

  • Chastell Dinas Brân
  • tref gaerog canoloesol Dinbych
  • pentre Capel Celyn
  • tref marchnad Rhuthun

ac ambell le arall yn fyw i’r genhedlaeth nesaf, oddi fewn i’r gemau a’r gweithgareddau.

Fel rhan o’r gwaith datblygu, bu’n rhaid i’r Fenter fuddsoddi mewn offer digidol a hyfforddiant i ddefnyddio ‘server’ penodol ar gyfer Minecraft, gan gysylltu â nhw ar ddyfeisiadau gwahanol a throsglwyddo gwybodaeth yn hwylus i bawb gyrraedd at y dechnoleg. Meddai Gwion Tomos-Jones, swyddog plant a phobl ifanc y Fenter: “Y gwir ydi erbyn hyn, y gallwn ni gynnal gweithdai mewn mwy o leoliadau hanesyddol, i gynnig profiad uniongyrchol o ardal neu leoliad hanesyddol i bobl ifanc. Gyda chefnogaeth ariannol pellach, does dim rhwystrau”.

Yn ôl Cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych, Arwel Roberts: “Mae’r Bocs Trysor wedi llwyddo oherwydd syniadau beiddgar ac ysgogiad staff y Fenter a gyllidir gan Llywodraeth Cymru a’r cydweithio ariannol gan y Loteri Treftadaeth.

“Rydym yn ymfalchïo bod y criw bach o staff wedi derbyn cydanbyddiaeth am eu gwaith gan sicrhau adnodd credadwy a llwyddiannus sy’n hawdd i’w efelychu mewn ardaloedd eraill.

“Roedd derbyn clod a diddordeb Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles yn y cynllun llynedd ar faes Eisteddfod yr Urdd, hefyd yn gydnabyddiaeth o ddyfesigarwch y criw. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm a phob lwc nos Iau yng Ngwobrau’r Mentrau.”