Cyfle i weithio i gefnogi grwpiau cymunedol a hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn ne siroedd Conwy a Dinbych

Diolch i nawdd gan gronfeydd Ffermydd Gwynt Brenig a Clocaennog mae Mentrau Iaith Conwy a Sir Ddinbych yn chwilio am swyddog prosiect i sefydlu a chefnogi grwpiau cymunedol mewn cymunedau ar draws ardal Hiraethog.

Bydd y swyddog yn gyfrifol am adnabod a chefnogi grwpiau gwirfoddol gyda’r bwriad i adnabod anghenion y cymunedau o ran defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio efo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal o fewn y diriogaeth. Bydd rhywfaint o ddyletswyddau gweinyddol megis cadw cofnodion, creu a dadansoddi holiaduron ac adrodd ar gynnydd y prosiect yn chwarterol.

Cyflog: Cychwyn ar Raddfa NJC17 (£24,920.00) yn ddibynnol ar brofiad. 

Oriau: 37 awr yr wythnos

Lleoliad: Rhannu rhwng swyddfeydd Menter Iaith Conwy, Llanrwst a Menter Iaith Sir Ddinbych yn Ninbych.

Dyddiad Cau: 9am, Dydd Gwener, 26ain Ebrill, 2024

Cais drwy lythyr a CV.

Am fwy o fanylion am y swydd neu i wneud cais cysylltwch â: meirion@miconwy.cymru

Dogfennau:

Swydd Ddisgrifiad