Mae’r proffil hwn wedi’i lunio gan Menter Iaith Sir Ddinbych, gyda mewnbwn gan bartneriaid y Gymraeg yn lleol. Gyda phedair blynedd ers y cyfrifiad diwethaf dyma gyhoeddi diweddariad cychwynnol i’r proffil, yn seiliedig ar y cyfrifiad yn 2021 ac ar ffeithiau a ddaw i law gan bartneriaid yn y sir. Yn y cyfamser mae’n bwysig nodi mai dogfen fyw yw’r proffil iaith, a fydd yn eistedd yma ar wefan Menter Iaith Sir Ddinbych. Bydd diweddariadau cyson iddo wrth i ystadegau newydd ddod i law.
Nod y ddogfen hon yw rhoi darlun cyfredol a chynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Ddinbych. Bydd hefyd yn galluogi i ni gynllunio’n effeithiol ac ystyried mesurau i liniaru effeithiau’r pandemig a gafodd effaith pellgyrhaeddol ar gymunedau a chymdeithas. Bydd y proffil hwn yn allweddol er mwyn gallu cydnabod y newidiadau a dadansoddi eu heffeithiau ar wydnwch y Gymraeg a’i ddefnyddwyr. Bydd y Proffil yn rhoi sylfaen i baratoi a datblygu cynlluniau gwaith a strategaethau’r dyfodol ac yn creu darlun o ba ymyraethau ychwanegol a rhai o’r newydd sydd eu hangen er mwyn ymateb i’r sgil effeithiau a sicrhau ffyniant y Gymraeg.
I ddod o hyd i’r proffil, cliciwch yma Welsh language profile 25 26 Cymraeg