Roedd Dinbych dan ei sang ar y cyntaf o Fawrth, wrth i hyd at 700 o blant ymuno yn nathliadau arbennig Dydd Gŵyl Ddewi, diolch i waith Menter Iaith Sir Ddinbych, Cyngor Tref Dinbych a’u partneriaid.
Ymddangosodd yr haul wrth i’r bore fynd rhagddo a dechreuodd yr orymdaith ei thaith o waelod Stryd y Dyffryn yng nghanol baneri lliwgar a sŵn a chyffro’r dorf. Teithiodd plant, staff, stiwardiaid a gwirfoddolwyr i fyny’r brif stryd wrth i drigolion a busnesau lleol ddod allan i’w cyfarch ac ymuno yn nathliadau ein nawddsant cenedlaethol.
Yn arwain yr orymdaith a sicrhau diogelwch pawb oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad oedd Heddlu Gogledd Cymru. Roedd dau gwnstabl ifanc arbennig ‘Heddlu Bach’ o Ysgol Pendref yn cefnogi’r swyddogion eleni, Zacharay a Maisie. Mae’r ddau yn cael y fraint o gael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar waith yr heddlu yn Ninbych.
Ar Sgwâr y Goron, cafodd y 12 ysgol a fynychodd y digwyddiad groeso cynnes gan y cyflwynydd radio, Owain Llŷr a’i gerddoriaeth Gymraeg.
Y cyflwynydd radio a’r DJ Owain Llŷr yn arwain cân enwog Dafydd Iwan ‘Yma o Hyd’ Dafydd Iwan gyda’r dorf.
Dywedodd Ruth Williams o Fenter Iaith Sir Ddinbych: “Roedd yn wych croesawu disgyblion a staff ysgolion Tremeirchion, Bro Cinmeirch, Cefnmeiriadog, Pendref, Pant Pastynog, Henllan, Frongoch, Twm o’r Nant, Coleg Myddelton ac Ysgol Uwchradd Dinbych yn ôl atom eleni.
“Yn ymuno am eu profiad cyntaf roedd disgyblion blwyddyn saith Ysgol Glan Clwyd ynghyd â disgyblion Ysgol Plas Brondyffryn. Roedd yn braf gallu croesawu’r ddwy ysgol am y tro cyntaf i orymdeithio â ni.
Un o’r criw fu’n brysur yn gwirfoddoli ar y diwrnod oedd Emyr Thomas o Ddinbych.
Dywedodd yr aelod o Gôr Meibion Dinbych a chefnogwr Clwb Rygbi Dinbych, Emyr: “Mae’n wych bod yn rhan o’r digwyddiad arbennig yma. Rydym yn ffodus bod gennym dîm prysur yn y Fenter, sy’n llawn syniadau ac arloesedd, ac maent yn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion i ddangos balchder yn y Gymraeg. Dwi wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r digwyddiad arbennig yma i’r dref.”
Roedd Sgwâr y Goron, Dinbych dan ei sang wrth i bawb fwynhau’r dathliadau ar Ddydd Gŵyl Ddewi
Dywedodd Ruth Williams: “Rydym mor ddibynnol ar gefnogaeth y gymuned, ac mae cael unigolion sy’n ein cefnogi fel gwirfoddolwyr a stiwardiaid, yn greiddiol i’n gweithgareddau.
“Ar Ddydd Gŵyl Ddewi, rydym yn ddiolchgar i holl ddisgyblion a staff yr ysgolion am drefnu a mynychu. Yn ogystal, mae cefnogaeth Cyngor Tref Dinbych, Grŵp Cynefin, Lidl a Heddlu Gogledd Cymru yn hollbwysig i lwyddiant y digwyddiad, felly diolch iddyn nhwythau.
“Un o uchafbwyntiau’r bore i mi oedd gweld disgybl 15 oed o Ysgol Plas Brondyffryn, Deiniol Horner, yn cyflwyno blodau ar ran y dorf i Faer Tref Dinbych.
Dywedodd Deiniol ar ôl cerdded y daith i fyny Stryd y Dyffryn, ei fod yn teimlo’n hyderus, nad oedd wedi blino ond ei fod yn gyffrous iawn i gael cyfarfod â Maer go iawn am y tro cyntaf.
Un o ddisgyblion Ysgol Plas Brondyffryn, Deiniol Horner, 15, wrth ei fodd i gyfarfod â Maer Tref Dinbych, Alyn Ashworth a chyflwyno blodau iddo.
Roedd Sgwâr y Goron dan ei sang ac i sŵn ‘Yma o Hyd’ roedd canu brwd. Daeth gweithgareddau’r bore i ben gyda chanu’r anthem genedlaethol dan arweiniad Owain Llŷr. Roedd baneri Dewi Sant yn chwifio’n uchel yn yr awyr wrth i bawb droi yn ôl i’r ysgolion i barhau â’u dathliadau.
“Diolch, Dinbych, am roi sioe gwerth chweil i ni ar Fawrth y cyntaf!” meddai Maer Tref Dinbych, Alyn Ashworth. Am luniau o’r digwyddiad a gwybodaeth bellach am wasanaethau Menter Iaith Sir Ddinbych ewch i’r dudalen Facebook, Twitter neu Instagram neu galwch draw i’r wefan. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli o fewn eich cymuned neu gefnogi gwaith y Fenter yn ariannol, cysylltwch â Ruth Williams ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru