Y Gymraeg: Perthyn i ti a fi
#Perthynitiafi
21 Chwefror – 1 Mawrth

Beth yw’r ymgyrch?
Ymgyrch peilot ond cyffrous yw hi o’r enw ‘Y Gymraeg: Perthyn i ti a fi’. Y bwriad yn syml yw hyrwyddo negeseuon allweddol am y Gymraeg a dwyieithrwydd ar y cymunedau ar-lein gyda’r nod o hyrwyddo digwyddiadau a dathliadau cymunedol sy’n digwydd ar lawr gwlad i ddathlu diwrnod ein nawddsant.
Negeseuon yr ymgyrch
Mae negeseuon yr ymgyrch yn rhai mae’r Mentrau a Twf yn rhannu a hyrwyddo dros Gymru gyfan trwy’r flwyddyn, ond mae adeg Gŵyl Dewi yn gyfle ychwanegol, arbennig i ni eu rhannu er mwyn dathlu’n hiaith.

Y prif negeseuon yw:
• Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb
• Mae manteision cymdeithasol a diwylliannol di-ri o siarad Cymraeg a bod yn ddwyieithog
• Mae dwyieithrwydd yn sgil am byth
• Mae’r mwyafrif o bobl y byd yn siarad dwy iaith a dylem i gyd fod yn falch o’n dwyieithrwydd

Sut gallwch gymryd rhan?
Bydd MIC a TWF yn cynnal yr ymgyrch a thynnu sylw at ddigwyddiadau Gŵyl Dewi sy’n cael eu cynnal ar lawr gwlad gan y Mentrau a Swyddogion Twf felly rydych chi a’ch Menter yn rhan bwysig ohono!

Gallwch gymryd rhan yn hawdd trwy
• rhannu ac ail-drydaru ein negeseuon
• rhannu negeseuon am eich digwyddiadau Gŵyl Dewi lleol gyda ni i hyrwyddo ar eich rhan
• rhannu eich lluniau, fideos a deunydd arall o’ch digwyddiadau ar y platfformau ar-lein, gan ddefnyddio’r hashnod #perthynitiafi
• creu cynnwys creadigol – lluniau, posteri, gifs, fideos, animeiddio – ar gyfer yr ymgyrch a’i rannu, gan ddefnyddio #perthynitiafi

Manylion Pellach
Emily Cole / Morgan Williams (Mentrau Iaith Cymru)
Catrin Saunders (Twf)