Rhoddodd tref Dinbych naws arbennig i ddathliadau Dydd Gŵyl Ddewi ddydd Mercher y cyntaf o Fawrth, wrth i dros 500 o bobl ifanc orymdeithio i fyny Stryd y Dyffryn dan arweiniad seiniau hyfryd Band Cambria.

Daeth y digwyddiad, a drefnwyd mewn partneriaeth rhwng Menter Iaith Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin, Cyngor Tref Dinbych ac Urdd Gobaith Cymru gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, â phlant ysgol o ysgolion cynradd ac uwchradd yn Ninbych a’r cyffiniau ynghyd i ddathlu nawddsant cenedlaethol Cymru.

Gan arwain y ffordd o faes parcio Lidl i fyny Stryd y Dyffryn daeth trigolion a busnesau’r dref allan i gefnogi a mwynhau’r dathliadau, ac ymunodd disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Dinbych â’r orymdaith am y tro cyntaf eleni. Yn yr un modd, ymunodd oedolion sy’n dysgu’r iaith gyda Phopeth Cymraeg â’r orymdaith am y tro cyntaf i flasu’r awyrgylch Gymreig sy’n cael ei chreu ar strydoedd Dinbych.

Hefyd yn bresennol roedd disgyblion o Ysgol Gymraeg Henllan; Twm o’r Nant; Bro Cinmeirch; Pant Pastynog; Tremeirchion; Cefn Meiriadog, Pendref, Frongoch a Choleg Myddelton.

Gorymdaith Gŵyl Ddewi ar gychwyn

Yn ôl Ruth Williams, Menter Iaith Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn o weld cymaint o blant a phobl ifanc yn ymuno â ni i nodi Dydd Gŵyl Ddewi. Mae cefnogaeth yr ysgolion a’u staff i’r dathliad i’w llongyfarch yn fawr.

“Mae nodi Dydd Gŵyl Ddewi yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn galendr, ac rydym yn falch o roi’r cyfle i bobl ifanc uniaethu â’u treftadaeth, iaith a diwylliant. Mwynhaodd y tîm a fu’n rhan o’r trefnu a’n partneriaid yr orymdaith yn fawr ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth. Diolch Dinbych!”

Dywedodd Ffion Pittendreigh, o dîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae Grŵp Cynefin yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn yn Ninbych ac rydym yn falch o roi cyfle i ddisgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd fynychu a nodi Dydd Gŵyl Dewi yn yr awyrgylch arbennig yma.

Siaradwyr Cymraeg newydd yn gorymdeithio am y tro cyntaf

Derbyniodd Alyn Ashworth, Maer Tref Dinbych rodd o gennin gan ddau ddisgybl uwchradd o Ysgol Uwchradd Dinbych i nodi’r achlysur y tu allan i neuadd y dref. Gyda Band Cambria yn cyfeilio, bu’r disgyblion yn canu cân adnabyddus Dafydd Iwan ‘Yma o Hyd’ ac anthem genedlaethol Cymru i gloi’r orymdaith ym mhen ucha’r dref.

Maer Dinbych yn derbyn cennin gan ddau ddisgybl o Ysgol Uwchradd Dinbych

Dywedodd Alyn Ashworth: “Cawsom fore hyfryd a dwi’n falch bod trigolion Dinbych wedi dod allan i gefnogi’r digwyddiad a nodi’r achlysur arbennig. Diolch yn fawr iawn i Fenter Iaith Sir Ddinbych a’r holl bartneriaid am eu gwaith trefnu a’u hymroddiad. Gadawodd pawb Ddinbych mewn hwyliau da, yn barod am fwy o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn eu hysgolion unigol.”

I weld fideo o’r orymdaith, cliciwch yma.