Am bythefnos bob blwyddyn ar ddiwedd mis Chwefror a dechrau mis Mawrth, daw miloedd o unigolion, cwmnïau a grwpiau ledled y DU ynghyd i rannu straeon y bobl sy’n tyfu ein bwyd a’n diodydd, mwyngloddio ein aur ac sy’n tyfu’r cotwm yn ein dillad, pobl sy’n aml yn cael eu hecsbloetio a’u tan-dalu.
Yn 2021, mae Pythefnos Masnach Deg yn teimlo’n wahanol iawn. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn galed i bawb ac mae ymgyrchu’n gorfforol a chwrdd â phobl am barhau i fod yn heriol yn 2021 ond mae rhai yn dal ati i gefnogi Masnach Deg drwy’r amser hwn.
Mae pandemig COVID-19 wedi dangos i ni fwy nag erioed pa mor gyd-gysylltiedig ydym yn fyd-eang. Mae’r rhyng-gysylltiad hwn wrth wraidd y neges Masnach Deg a dyma lle mae eich rôl yn cychwyn. Beth am chi’n rhan o’r mudiad Masnach Deg ac mae gennych chi’r pŵer i yrru newid tymor hir, nid yn unig gyda’ch dewisiadau siopa ond gyda’ch cefnogaeth chi i ledaenu’r neges. Ewch i https://www.fairtrade.org.uk/ i ddarllen mwy.
Un sefydliad sy’n defnyddio cynnyrch Masnach Deg yn lleol ydy Menter Iaith Sir Ddinbych. Meddai Ruth Williams o’r Fenter: “Fel elusen sy’n dilyn ei pholisi Cynaladwyedd ac Amgylcheddol o ddifri, rydym yn falch o gefnogi Masnach Deg drwy sicrhau mai coffi, te a siwgr Masnach Deg fyddwn yn ei weini wrth gynnal cyfarfodydd a gweithgareddau cymunedol. A hithau’n wythnos dathlu ein nawddsant, mae’n amserol iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud y pethau bychain fel hyn.”