Daeth dros 500 o blant lleol ac ymwelwyr â phromenâd Y Rhyl i stop yn ddiweddar, wrth iddynt orymdeithio yn cario ffaglau iaith i godi proffil y Gymraeg ac i rannu pwysigrwydd defnyddio a throsglwyddo’r iaith i’n gilydd.

Ymunodd disgyblion Ysgolion Dewi Sant (Y Rhyl), Y Llys (Prestatyn) a Glan Clwyd (Llanelwy) â miloedd o blant ac oedolion ledled Cymru i orymdeithio mewn undod yn Ras yr Iaith 2023. Yn cadw cwmni a hwyl ar y promenâd yn Y Rhyl oedd y diddanwr canu gwlad, The Welsh Whisperer.

Yn ôl trefnydd Ras Yr Iaith yn Sir Ddinbych, Gwion Tomos-Jones, o Fenter Iaith Sir Ddinbych: “Roedd y digwyddiad yn un gwerth chweil, gyda’r disgyblion yn codi hwyl a miri’r daith ar hyd glan môr y Rhyl. I mi, roedd clywed bobl leol Y Rhyl ac ymwelwyr yn holi am yr iaith, yn dangos diddordeb yn y digwyddiad ac yn dysgu mwy am y Gymraeg ar fore bendigedig o braf, yn falm i’r enaid. Ar ben hynny, roedd clywed môr o Gymreictod yn gorymdeithio fel neidr hir liwgar ar hyd arfordir Sir Ddinbych yn brofiad anhygoel.”

Yn ôl disgyblion Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl; Sam Brumby, 11 o’r Rhyl a Seren Hughes, 11 o Rhuddlan: “Mae cael dod yma fel cael gwers Gymraeg ar lan y môr! Mi rydyn ni’n cael lot fawr o hwyl ac mae’n teimlo fel tasa ni gyd yn un teulu mawr heddiw!”

I Seren, sy’n mwynhau canu ac actio yn Theatr Fach y Rhyl, mae’n edrych ymlaen yn arw at fynd i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy am ei haddysg uwchradd ym mis Medi er mwyn cael mwy o gyfleoedd perfformio.

“Mae dad yn siarad Cymraeg adref, ond dydi mam ddim. Dwi’n gwybod bod na lot fawr o gyfleoedd i mi yn yr ysgol uwchradd yn y byd perfformio, felly dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy i fynd yno, ym mis Medi.”

Dau o ffans y Welsh Whisperer, Osian a Llŷr, disgyblion Ysgol Glan Clwyd, fu’n mwynhau clywed ei harwr yn canu am y byd amaeth wedi cyrraedd diwedd y daith yn Arena’r Rhyl. Gyda thros 500 o blant yn canu a dawnsio i gerddoriaeth y Welsh Whisperer, roedd hi’n wledd i’r athrawon a staff y Fenter weld y plant yn a mwynhau gyda’i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gydag Osian Dylan Hughes, 12 oed o Lloc, Sir y Fflint a Llŷr Siôn Evans, 12 o Lansannan yn feibion fferm, roedd hi’n braf iawn gadael eu hystafell ddosbarth yn Llanelwy i glywed caneuon fel ‘Ni’n belio nawr’ a ‘Defaid William Morgan.’

Fel rhan o’r digwyddiad, trosglwyddodd rhai disgyblion Ysgolion y Llys a Dewi Sant y ffaglau iaith roeddynt wedi bod yn eu creu yn y dosbarth cyn y diwrnod, i blant Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. O fewn y ffaglau roeddynt wedi creu negeseuon Cymraeg am beth mae’r Gymraeg yn ei olygu iddynt ac mewn seremoni symbolaidd, nodwyd bwysigrwydd o basio’r iaith ymlaen wrth aeddfedu.

Yn ôl Gethin Morgan, Pennaeth blwyddyn 7 Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy fu’n trefnu’r 200 o ddisgyblion i fynychu’r digwyddiad gyda’r Fenter Iaith: “Prif flaenoriaeth ein hysgol ni yw rhoi’r cyfle i’n disgyblion allu profi a byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n gallu bod yn her dod i hyd i leoliadau a’r amgylchiadau cywir i wneud hynny, y tu hwnt i’r stafell ddosbarth, i nifer o’n dysgwyr, sydd â dau riant di-Gymraeg gartref. Mae Ras yr Iaith, felly, yn gyfle i ni gynnig awyrgylch naturiol Gymraeg wrth gamu o’r ysgol a dod i fwynhau taith ar y promenâd yn Y Rhyl.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i griw Menter Iaith Sir Ddinbych am ei chefnogaeth gyson a’i pharodrwydd i gynnig arlwy o ddigwyddiadau a sesiynau, gydol y flwyddyn, sy’n cynnig profiadau Cymraeg i holl ddysgwyr y sir. Mae wedi bod yn fore da!”

Yn ystod y digwyddiad, daeth nifer o ymwelwyr â’r Rhyl draw i siarad gyda staff y Fenter a’r athrawon i ddeall mwy am y digwyddiad a rôl y Gymraeg yn Ras yr Iaith. I bobl chwilfrydig lleol oedd yn cerdded eu cŵn ac yn mynd am dro ar hyd yr arfordir, bu’n gyfle i godi proffil y Gymraeg a phwysleisio pwysigrwydd y sgil o siarad dwy iaith yn rhugl gan atgoffa nifer o’r fraint mae plant a phobl ifanc yn ei chael yn yr oes hon, o allu dysgu ail iaith.

I Ella Marchant, 10 oed a Bethan Mai Cornelius, 11 oed o Ysgol y Llys, Prestatyn roedd Ras yr Iaith yn “ddiwrnod sbeshal!”

“Mae hi wedi bod yn hwyl bod yma ac mae’r haul allan!” Er bod y ddwy yn teimlo’r gwres wrth gerdded y promenâd roedd y ddwy ffrind yn falch o’r cyfle i ddod allan am dro a mwynhau’r digwyddiad gyda’i gilydd yn Y Rhyl. Gydag un yn mwynhau gwyddoniaeth ac ieithoedd a’r llall yn edrych ymlaen at gael gwneud mwy o amrywiaeth o wersi ymarfer corff wrth symud i’r ysgol uwchradd yn Llanelwy, ym mis Medi, roedd y wen ar eu hwynebau, yn siarad cyfrolau am fwyniant y dydd.

“Rhaid i ni ddiolch i’n cyd-weithwyr ym Menter Iaith Conwy a phrosiect y Glannau a ariennir gan gronfa Gwynt y Môr, am y cydweithio braf,” meddai Ruth Williams, Menter Iaith Sir Ddinbych. “Ac wrth gwrs, i’n partneriaid, heb anghofio’r athrawon a’r penaethiaid sy’n rhoi’r cyfle i’r plant gael profi’r iaith y tu allan i’r stafell ddosbarth. Bob dwy flynedd mae Ras yr Iaith yn cael ei chynnal, ond mae’r gwaith o drosglwyddo’r Gymraeg i’n cyfeillion, cydweithwyr ac aelodau ein teulu yn parhau bob dydd o’r flwyddyn!”

Os am wybodaeth bellach am wasanaethau’r Fenter neu â diddordeb i wirfoddoli o fewn eich cymuned neu gefnogi gwaith y Fenter, yn ariannol neu drwy gynnig eich amser, yna ewch i’r wefan neu cysylltwch â Ruth Williams ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru