Croeso Cymreig ar y stryd Fawr

Os ydych chi wedi bod yn siopa yn ein trefi lleol dros yr wythnos ddiwethaf, byddwch wedi sylwi bod rhai busnesau ledled y sir wedi bod yn brysur iawn yn addurno eu ffenestri i gyfleu diwrnod ein nawdd sant ar Fawrth 1af.
Cynhaliwyd cystadlaethau ffenestri Dydd Gŵyl Dewi eto eleni gan Menter Iaith Sir Ddinbych, gyda chymorth cynghorau tref a phrosiect Cymraeg Byd Busnes. Roedd yr ymgyrch ym Mhrestatyn wedi’i drefnu ar y cyd gydag aelodau o gyngor Ysgol y Llys.
Cafwyd bron i 100 o fusnesau yn cymryd rhan ar draws y sir ac roedd y rhai a ddaeth i’r brig fel a ganlyn:
Dinbych
- Siop Reebees – 1af
- Ffotograffiaeth Tony Griffiths – 2il
- Siop Siocled – 3ydd
Rhuthun
- Ffarmio Ringwood – 1af
- Fine Line – 2il
- Beresford Adddams – cydradd 3ydd
- Bijou – cydradd 3ydd
Llangollen
- Lily Rose Interiors – 1af
- Tenovus – 2il
- Pro Adventures – 3ydd
Rhuddlan
- Wish – 1af
- Blooming Gorgeous Floristry – 2il
- Williams Estates – 3ydd
Prestatyn
- The Sewing Room – 1af
- The William Morgan – cydradd 2il
- Clwyd Bakeries – cydradd 2il
- Euphoria – cydradd 3ydd
- Celtic Cars – cydradd 3ydd
Meddai Iorwen Jones o’r Fenter; “hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau am gymryd rhan yn yr hwyl. Mae’r ffenestri yn sicr wedi dod â sylw i’n trefi, a gwych yw clywed adborth gan fusnesau sydd wedi gweld cynnydd yn y nifer o gwsmeriaid trwy eu drws”.