Er mwyn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen, Santes Cariadon Cymru, ar Ionawr 25ain, mae Rheidol Records yn rhyddhau sengl fachog gan ‘Y Cariadon’.

Mae’r gân wedi ei hanelu at blant Cymru ac mae’n olrhain hanes Dwynwen mewn ffordd syml a hwyliog sy’n sicr o lenwi’r llawr dawnsio mewn sawl disgo Santes Dwynwen ledled y wlad ddiwedd Ionawr!

Mae geiriau’r gân a’r fideo i’w cael ar sianel fideo Rheidol Records:  http://youtu.be/afJzUJsxXnI

Os hoffech gopi o’r geiriau neu’r gân cysylltwch drwy ddefnyddio’r manylion isod…Diwrnod Santes Dwynwen hapus!
Label: Rheidol Records
Dyddiad Rhyddhau: 14.01.14