Mae Mentrau Iaith Cymru, y mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 23 Menter Iaith, yn falch o gyhoeddi bod pob Menter bellach wedi cofrestru i ddefnyddio .cymru, y parth newydd sy’n unigryw i Gymru a gwefannau a chyfeiriadau e-byst yng Nghymru.

Fel grŵp o fudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg trwy amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau, mae’r Mentrau yn ystyried eu trosglwyddiad torfol i .cymru yn arwydd clir o’u cefnogaeth i’r ymgyrchoedd amrywiol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chynnwys Cymreig ar-lein.

Dywedodd Meirion Davies, Cadeirydd Cenedlaethol MIC: “Dros y blynyddoedd diwethaf mae cyfathrebu, darganfod gwybodaeth a marchnata digodol wedi dod yn fwyfwy pwysig.

Mae’n gwaith i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yn ein cymunedau ledled Cymru yn newid yn gyson ac er mor bwysig yw gweithio ar lawr gwlad i gefnogi’r Gymraeg mae hefyd yr un mor bwysig ein bod yn annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ar-lein.  Rydym felly, wrth drosglwyddo i .cymru yn gobeithio y bydd hwn yn ddathliad o’n hunaniaeth Gymreig ac yn fodd inni ddatblygu a chryfhau cymunedau Cymraeg ym mhob cwr o’r byd.”

Yn sgil trosglwyddo i .cymru, fe fydd rhai Mentrau Iaith yn datblygu gwefannau newydd, fel sydd wedi digwydd gyda gwefan mentrauiaith.cymru yn ddiweddar.

Hefyd fel rhan o ymgyrch Cymreigio’r We a arweinir gan yr ymddiriedolaeth Nominet, fe fydd Mentrau Iaith Cymru yn cynnal digwyddiad cyhoeddus â phanel o arbenigwyr ar y pwnc Cymreigio’r We ar 7fed o Awst, 14:00-15:00 ar eu stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe fydd y sesiwn, o dan gadeiryddiaeth, Dylan Iorwerth, yn gyfle i drafod a holi arbenigwyr ar sut y dylid bwrw ati i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar-lein a’r potensial i fanteiso ar dechnolegau newydd er budd yr iaith.