Pwy yw Magi Ann?
Mae Magi Ann yn brysur ddod yn un o hoff gymeriadau plant bach Cymru. Mae cenedlaethau o blant ardal Clwyd a thu hwnt wedi dysgu darllen gyda llyfrau bach du a gwyn Magi Ann ers y 70au, ond erbyn heddiw mae’r straeon ar gael am ddim ac wedi animeiddio ar chwech o apiau arbennig. Mae’r apiau bellach wedi cael eu lawrlwytho dros 200,000 o weithiau, ac mae calendr Magi Ann yn llawn trwy’r amser gydag ymweliadau mewn digwyddiadau ac eisteddfodau ar draws y wlad!
Stori Magi Ann
Magi Ann oedd hoff ddoli merch fach o’r enw Mena Evans. Ar ôl tyfu fyny, cafodd Mena waith fel athrawes yn Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon. Er mwyn helpu’r plant bach i ddysgu darllen, aeth ati i ysgrifennu llyfrau Magi Ann a’i ffrindiau. Mae’r straeon yma nawr ar gael yn genedlaethol ac wedi animeiddio am y tro cyntaf ar apiau arloesol, i helpu plant heddiw (a’u rhieni) i ddysgu darllen yn Gymraeg.
Apiau Magi Ann
Mae’r apiau yn adnoddau gwych i blant bach sydd yn siarad Cymraeg yn barod, i blant sy’n dysgu Cymraeg, ac i rieni ac athrawon sydd eisiau dysgu’r iaith neu eisiau helpu eu plant i ddysgu. Mae’r ffaith bod cymaint wedi lawrlwytho’r apiau yn profi’r angen am y math hwn o adnodd sy’n helpu rhieni a phlant i ddysgu darllen trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gwybod am deuluoedd ar draws y byd sydd wedi lawrlwytho apiau Magi Ann i gyflwyno’r Gymraeg i’w plant! Mae’r adnodd arloesol yn ffordd effeithiol iawn i helpu plant a’u rhieni i fagu hyder wrth ddysgu ffurfio geiriau a darllen yn Gymraeg, gyda nodweddion rhyngweithiol defnyddiol fel:
- Dewis i’r defnyddiwr unai i ddarllen y straeon ar ei ben ei hun neu i wrando ar leisiau yn adrodd y straeon;
- Modd tapio botwm i weld cyfieithiad o frawddegau neu ar eiriau unigol i glywed sut i ynganu geiriau penodol;
- Jig-sos, gemau geiriau a thudalennau lliwio.
Yn sgil poblogrwydd amlwg yr adnodd, mae’r Fenter yn cynnal partïon a gweithgareddau Magi Ann gyda grwpiau rhieni a phlant a meithrinfeydd lleol ar draws Sir Ddinbych. Maent hefyd wedi buddsoddi mewn siwt Magi Ann, sy’n galluogi ymweliad arbennig gan y seren ei hun yn y digwyddiadau!
Gallwch hefyd ddilyn anturiaethau Magi Ann ar Facebook a Twitter!
I gael Magi Ann i ymweld â’ch ysgol neu feithrinfa chi, cysylltwch â ni drwy e-bost: Menter@misirddinbych.cymru