Chwilio am weithgareddau Cymraeg i blant yn ystod yr hanner tymor? Dyma ychydig o syniadau i chi…….
Dydd Llun 30/10 bydd Mair Tomos Ifans yn adrodd storïau (dwyieithog) yng Nghastell Rhuddlan 11am – 3pm
Dydd Mawrth 31/10 Yr Urdd yn cynnal gwersyll aml-chwaraeon i blant blwyddyn 3 – 6 yn y Rhyl
Bore dydd Mercher 1/11 Menter Iaith yn cynnal sioe hud a lledrith gyda Professor Llusern Gaeaf yng Nghlwb Rygbi Dinbych. E.bostiwch menter@misirddinbych.cymru i gofrestru.
Pnawn dydd Mercher 1/11 Menter Iaith yn cynnal sioe hud a lledrith gyda Professor Llusern yng Nghorwen. E.bostiwch menter@misirddinbych.cymru i gofrestru.


Dydd Iau 2/11 Menter Iaith yn cynnal gweithdai Lego (i rai dros 7 oed) a Minecraft (i rai dros 10 oed) yn Rhuthun. E.bostiwch menter@misirddinbych.cymru i gofrestru.


Bydd Carchar Rhuthun yn cynnal gweithgareddau Calan Gaeaf yn ddwyieithog gydol yr wythnos. Ar agor bob dydd rhwng 21 Hydref a 4 Tachwedd 10 – 4pm
Ac wrth gwrs, cofiwch ddefnyddio’ch llyfrgell leol lle mae digonedd o ddewis o lyfrau Cymraeg ar gael i’w benthyg!
Mae chwedl Gwyn ap Nudd ar fideo yn fan hyn – werth ei wylio o gwmpas Calan Gaeaf!
Wedi eu hysbrydoli o glywed yr hanes? Bydd modd lawrlwytho templed i greu penglog papur.