Oes gennych chi benseiri neu adeiladwyr bach creadigol acw, beth am archebu lle iddynt yn un o’n gweithdai Lego neu Minecraft a gynhelir dros gyfnod gwyliau’r haf?
Byddwn yn cynnal gweithdai Lego a Minecraft yn Rhuddlan, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen, a fydd yn gyfle i blant ddysgu ychydig am eu hanes lleol, wrth fwynhau chwarae a chymdeithasu gyda ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd. A hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymrwch olwg ar y posteri isod er mwyn cael holl fanylion y lleoliadau, dyddiadau ac oedran plant, a chofiwch gysylltu’n fuan trwy e.bostio gwion@misirddinbych.cymru neu ffonio 01745 812822 i gofrestru. Mae llefydd yn gyfyngedig o ran niferoedd i bob gweithdy, a heb os, mi fyddant wedi llenwi’n fuan iawn!